Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gorchymyn cwmni cyfyngedig a gweithredwr bwyd dalu dros £20,000 am droseddau hylendid bwyd difrifol 

Mae cwmni cyfyngedig a gweithredwr bwyd wedi cael gorchymyn i dalu £22,549 ar ôl i gyfres o fethiannau gael eu nodi mewn bwyty a siop tecawê yn Nhreganna.Rat 2025

19/12/25

Roedd yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ystyried y ddau fusnes fel perygl uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Mae’r Tecawê Sri Lancaidd Rasathi a Chennai Dosa - dau fusnes bwyd ar wahân yn Nhreganna - ill dau yn eiddo i, ac yn cael eu rhedeg gan yr un cwmni, JS Local Ltd. Mae gan y Tecawê Sri Lancaidd Rasathi ddau gyfarwyddwr, Jerurasa Senjoansrajah a Saromina Senjoansrajah, tra bod gan Chennai Dosa, bwyty Indiaidd, un cyfarwyddwr: Jerurasa Senjoansrajah.

Cafodd JS Local Ltd a'r gweithredwr busnes bwyd, Jerurasa Senjoansrajah, eu dedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ar 15 Rhagfyr, yn dilyn cyfres o arolygiadau yn y ddau safle. Arweiniodd yr arolygiadau hyn i’r gweithredwr gau'r ddau fusnes yn wirfoddol oherwydd y risgiau i iechyd y cyhoedd.

Mae'r dirwyon a osodwyd gan y llys yn ymwneud ag arolygiadau a gynhaliwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd rhwng mis Medi a Rhagfyr 2024. Canfu swyddogion fod pla cnofilod i’w gweld yn helaeth yn y ddau safle, ynghyd â safonau glendid gwael a methiannau difrifol mewn rheoli diogelwch bwyd.

Yn ystod arolygiad yn Siop Tecawê Sri Lancaidd Rasathi ar 4 Medi 2024, gofynnodd arolygwyr am waith papur diogelwch bwyd sylfaenol - gan gynnwys cofnodion rheoli plâu, dogfennaeth alergedd, a thystysgrifau hyfforddiant staff - ond methodd y gweithredwr â darparu unrhyw wybodaeth.

Erbyn 4 Rhagfyr 2024, roedd Tecawê Sri Lancaidd Rasathi wedi'i droi'n storfa fwyd ar gyfer Chennai Dosa.
Yn ystod ymweliadau ym mis Rhagfyr 2024, darganfu Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd faw llygod mewn ardaloedd paratoi bwyd, offer budr, bwyd heb ei roi yn yr oergell, a lefel gyffredinol wael o lendid.

MouseAr 6 Rhagfyr, diddymwyd yr hysbysiad cau ar gyfer Chennai Dosa ar ôl cwblhau profion plâu a glanhau’r safle’n drylwyr. Fodd bynnag, parhaodd y plâu ac arferion storio bwyd gwael, gan arwain at gamau gorfodi ffurfiol gan y GRhR o dan Ddeddf Atal Difrod gan Blâu 1949.

Yn dilyn y weithred hon, ymddiswyddodd Saromina Senjoansrajah fel cyfarwyddwr Tecawê Sri Lancaidd Rasathi ym mis Tachwedd 2024, gan adael ei gŵr, Jerurasa Senjoansrajah, fel yr unig weithredwr busnes bwyd ar gyfer y ddau safle.

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:

"Roedd yr amodau a ddarganfuwyd gan ein swyddogion yn y tecawê a'r bwyty hwn yn peri risg glir ac uniongyrchol i'r cyhoedd. Nid oedd gofynion sylfaenol - megis dulliau effeithiol o reoli plâu, glanhau’n drylwyr a diogelwch bwyd cadarn - ar waith.

Roedd yr erlyniad yn angenrheidiol ac yn gymesur o ystyried difrifoldeb a pharhad y troseddau, a byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw fusnes bwyd sy'n fygythiad i iechyd y cyhoedd. Mae deddfwriaeth yn bodoli am reswm; bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn busnesau sy'n methu â bodloni'r safonau gofynnol.

"Rhaid i fusnesau sy'n trin bwydydd risg uchel, gan gynnwys reis, cyw iâr, cig dafad, pysgod ac wyau, gael rheoli plâu effeithiol, amserlenni glanhau a diheintio cadarn, a system rheoli diogelwch bwyd wedi'i dogfennu. Mae methu â bodloni'r safonau hyn yn peryglu cwsmeriaid a bydd yn arwain at gamau gorfodi."

Cafodd JS Local Ltd ddirwy o £16,080 a gorchmynnwyd iddo dalu £1,084 mewn costau. Cafodd gweithredwr y busnes bwyd, Jerurasa Senjoansrajah, ddirwy o £3,072, gorchmynnwyd iddo dalu £1,084 mewn costau, a gordal dioddefwr o £1,229.