Dweud eich dweud ar drwyddedu HMO ychwanegol ym Mhlasnewydd
Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar gynnig i gyflwyno Cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol arall ym Mhlasnewydd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu'r Cyngor i benderfynu a oes angen cynllun newydd.
O dan Ddeddf Tai 2004, gall cynghorau gyflwyno Cynllun Trwyddedu HMO Ychwanegol lle mae tystiolaeth ei fod ei angen ac ar ôl
ystyried barn pobl a allai gael eu heffeithio.
Daeth y cynllun blaenorol i ben ar 31 Rhagfyr 2025. Cyn cyflwyno cynllun newydd, rhaid i'r Cyngor asesu a oes angen trwyddedu ychwanegol yn yr ardal o hyd.
Canfu adolygiad o'r cynllun blaenorol ei fod wedi helpu i wella amodau tai a safonau rheoli eiddo ym Mhlasnewydd. Fodd bynnag, mae pryderon yn parhau am amodau tai a safonau rheoli mewn rhai eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr Adroddiad Ymgynghori.
Hoffem glywed gan denantiaid, landlordiaid, preswylwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Bydd eich barn, ynghyd â'r dystiolaeth ategol, yn helpu i lywio penderfyniad y Cyngor.
Cyn cwblhau holiadur, darllenwch y ddogfen ymgynghori. Mae'n esbonio'r cynnig, y dystiolaeth ategol, a sut roedd y cynllun blaenorol yn gweithredu.
Dewiswch yr holiadur sy'n cyd-fynd orau â'ch amgylchiadau. Bydd y ddolen yn mynd â chi i ffurflen ar-lein lle gallwch rannu eich barn a'ch profiadau.
Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 31 Rhagfyr 2026.
Angen help?
Os oes angen help arnoch i gael mynediad i'r ddogfen ymgynghori neu'r holiadur, anfonwch e-bost at SRSHMOconsultation@valeofglamorgan.gov.uk
Os oes angen copi papur o arolwg neu ddogfen ymgynghori arnoch, anfonwch e-bost SSRSHMOconsultation@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 0300 123 6696. Bydd angen i chi ddarparu:
- eich enw a'ch cyfeiriad,
- p'un a ydych chi eisiau'r ddogfen ymgynghori lawn, neu'r ddogfen hawdd ei ddarllen, a
- pa holiadur rydych chi ei eisiau.
Rhaid i chi wneud eich cais o leiaf 10 diwrnod cyn i'r ymgynghoriad gau, er mwyn caniatáu postio a dychwelyd.
Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd eich adborth yn helpu i lywio penderfyniad y Cyngor ar y cynllun arfaethedig.