Dwy siop yng Nghaerdydd yn cael eu cau am werthu Cynnyrch Tybaco Anghyfreithlon
Mae dwy siop yng Nghaerdydd wedi cael eu cau am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon, yn dilyn cyfres o bryniannau prawf o'r siopau hyn gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR)
12.1.26
Mae Vape Zone, uned fanwerthu lawr gwaelod ar Stryd Clifton yn Adamsdown a Mini Mart Store, ar Rodfa Countisbury yn Llanrhymni
wedi bod ar gau am dri mis yn dilyn gorchmynion llys gan Lys Ynadon Caerdydd.
Clywodd y llys fod y ddwy safle yn gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon i'w cwsmeriaid yn barhaus ac er gwaethaf derbyn cyngor busnes a rhybuddion ffurfiol gan y GRhR, parhaodd y ddwy siop i werthu tybaco a fêps ffug ac anghyfreithlon, felly rhoddwyd camau gorfodi ar waith.
Cyflwynwyd hysbysiad cau ar Vape Zone ar 16 Rhagfyr 2025 cyn i'r Cyngor wneud cais am y gorchymyn llawn, y cymeradwyodd y Barnwr Rhanbarth ef ar 17 Rhagfyr 2025.
Cyflwynwyd hysbysiad cau pellach ar y Mini Mart Store ar 16 Rhagfyr, 2025 yn dilyn gwrandawiad a ymladdwyd yn Llys Ynadon Caerdydd ar31 Rhagfyr 2025, gwnaeth y Barnwr Rhanbarth orchymyn i'r fangre gael ei chau.
Dwedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:
"Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned. Mae’r ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd ei gyflawni yn arbennig o ddeniadol i bobl ifanc a phobl ar incwm is, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr presennol roi'r gorau i'r arfer.
"Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon hefyd yn aml yn gysylltiedig â throseddau eraill, gyda grwpiau troseddol yn rheoli’r farchnad, ac arian o'r gwerthiannau’n cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgareddau troseddol eraill."
"Rwy'n falch iawn o weld y camau cyfreithiol hyn yn cael eu rhoi ar waith. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os byddant yn dewis delio yn y cynnyrch anghyfreithlon hyn.”