Perchennog siop o Gaerdydd yn cael dirwy am werthu fêp i blentyn
Mae perchennog siop o Gaerdydd a'i fusnes wedi cael gorchymyn i dalu ychydig o dan £6,500 ar ôl gwerthu fêp i blentyn 14 oed.
11/06/26
Cafodd Jihad Abass Subhan, o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, a'i gwmni, Corner Mini Market, ddedfryd yn Llys Ynadon
Caerdydd ar 9 Mehefin. Ni fynychodd Mr Subhan y llys, a phrofwyd yr achos yn ei absenoldeb.
Daeth yr achos i'r amlwg yn dilyn ymgyrch gudd a gynhaliwyd gan swyddogion Safonau Masnach, sy'n defnyddio gwirfoddolwyr dan oed i weld a yw siopau'n gwerthu cynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran i blant.
Er iddo gael rhybudd blaenorol gan swyddogion y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir ym mis Mawrth 2025, yn dilyn pryniant blaenorol a fethodd, rhoddwyd llythyr rhybudd a chanllawiau i Mr Subhan, ond parhaodd perchennog y siop i werthu cynhyrchion nicotin niweidiol i blant a chafodd ei ddal eto yn ystod y mis canlynol.
Dywedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Cafodd Mr Subhan ei rybuddio i beidio â pharhau i werthu cynhyrchion nicotin i blant ac, er gwaethaf y cyngor hwn, dewisodd barhau i wneud hynny. Mae cynhyrchion nicotin yn niweidiol i iechyd pobl, a dyna pam mae deddfau ar waith i gyfyngu ar eu gwerthu.
"Mae pob perchennog siop yn gyfreithiol gyfrifol am y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu, felly dylai'r ddirwy sylweddol hon anfon neges glir bod yn rhaid cynnal gwiriadau priodol cyn gwerthu cynhyrchion nicotin i gwsmeriaid."
Pan aeth swyddogion i mewn i'r siop ar ôl y pryniant prawf ym mis Ebrill 2025, ymddiheurodd Mr Subhan a honnodd fod ei sylw wedi’i dynnu gan ei fod ar y ffôn ar adeg y gwerthiant. Pan gafodd ei holi gan swyddogion am y gwiriadau angenrheidiol, gan gynnwys Her 25, nid oedd yn gallu esbonio'r gweithdrefnau sylfaenol.
Mae gwerthu fêps neu gynhyrchion eraill sydd â chyfyngiadau oedran i bobl dan 18 oed yn anghyfreithlon, ac mae disgwyl i fusnesau gynnal gwiriadau oedran priodol a chael systemau ar waith i wrthod gwerthu lle bo angen.
Cafodd Mr Subhan ddirwy o £2,000, gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £800, a £426 mewn costau.
Hefyd, cafodd y cwmni, Corner Mini Market, y mae Mr Subhan yn unig gyfarwyddwr arno, ddirwy o £2,000 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £800 a £426 mewn costau.