Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cŵn XL Bully sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cŵn Peryglus 1991

Ar 31 Hydref, cyhoeddodd llywodraeth y DU fod cŵn tebyg i gŵn ‘XL Bully’ bellach wedi’u cynnwys yn Neddf Cŵn Peryglus 1991, gyda mesurau’n dod i rym mewn dau gam.

2 Tachwedd, 2023

O 31 Rhagfyr 2023 bydd yn erbyn y gyfraith i:

  • Gwerthu ci ‘XL Bully’
  • Gadael ci ‘XL Bully’
  • Rhoi ci ‘XL Bully’ i ffwrdd
  • Cael ci ‘XL Bully’ ym man cyhoeddus heb dennyn a mwsel

O 1 Chwefror 2024 bydd yn drosedd berchen ar gi ‘XL Bully’ yng Nghymru a Lloegr oni bai bod gennych Dystysgrif Eithrio ar gyfer eich ci.

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad hwn, cyflwynodd y Llywodraeth y canllaw canlynol er mwyn paratoi ar gyfer y gwaharddiad o gŵn ‘XL Bully’: https://www.gov.uk/guidance/prepare-for-the-ban-on-xl-bully-dogs

Mae GRhR yn cynghori unrhyw un sy’n pryderi am y cyhoeddiad hwn i ymgyfarwyddo’i hunain â’r canllawiau, yn enwedig os ydych yn berchen ar gi sy’n dod o dan y safon cadarnhau ci ‘XL Bully’ neu’n meddwl y gallech fod yn berchen arno. Dylai perchenogion gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r deddfau newydd pan ddônt mewn grym.