Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Tâl am Fagiau Plastig Untro

Ar 1 Hydref 2011 daeth y Rheoliadau Tâl am Fagiau Plastig Untro (Cymru) i rym. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i godi tâl am fagiau o’r fath.

Blue plastic bagBwriad y ddeddfwriaeth ydy lleihau’r nifer o fagiau plastig untro yng Nghymru’n sylweddol.

Caiff bag untro ei ddiffinio fel bag wedi ei wneud o blastig, papur, defnydd yn seiliedig ar blanhigion neu startsh naturiol, ac nad oes bwriad ei ddefnyddio fwy nag unwaith. Mae eithriadau prin i’r rhestr hon.

Mae’r rheoliadau’n gosod isafswm o 5c i’r bagiau yma gael eu casglu gan y mân-werthwr. Mae’r enillion net yn cael eu trosglwyddo i achosion da yng Nghymru.

Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am orfodi’r tâl, ond ni fyddant yn gweithredu oni fydd y rheoliad yn cael ei herio. Bydd y dirwyon yn codi o £100 i hyd at £5,000 yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y drosedd.

Mae Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru wedi cynhyrchu arweiniad ar orfodi’r Rheoliadau Tâl am Fagiau Plastig Untro (Cymru) 2010.


Mae gwybodaeth bellach i defnyddwyr a busnesau ar gael ar wefan Tâl am Fag Plastig Cymru