Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Tenantiaid

Os ydych chi’n denant mewn tŷ rhent preifat ac yn profi anawsterau, gallwn ni eich helpu.

Rhai trafferthion posibl:
Living-Room

  • Atgyweirio eiddo rhent
  • Diogelwch o fewn eiddo rhent
  • Diogelwch o fewn Tai â Phreswylwyr Lluosol
  • Cael eich aflonyddu gan eich landlord
  • Troi Allan yn Anghyfreithlon

 

Mae gan eich landlord amryw gyfrifoldebau, yn cynnwys yr isod:

  • Cadw eu holl eiddo ar rent yn ddiogel ac yn rhydd rhag peryglon i iechyd
  • Sicrhau bod cyfarpar nwy a thrydan maen nhw’n eu cyfleu yn cael eu gosod yn ddiogel a’u cynnal a’u cadw mewn modd cyfrifol
  • Cydymffurfio â rheolau diogelwch tân
  • Darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i chi ar gyfer yr eiddo
  • Gwarchod eich blaendal mewn cynllun wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth
  • Sicrhau bod trwydded Tai â Phreswylwyr Lluosol (HMO) gan yr eiddo. Gweler tudalen HMO y GRhR.
  • Sicrhau eu bod nhw (neu eu hasiant) wedi eu cofrestru ac yn drwyddedig i weithredu fel landlord. Caiff y cynllun cofrestru a thrwyddedu ei gyflenwi gan sefydliad Rhentu Doeth Cymru

 

Gwneud cwyn

Cam 1

Siaradwch â’ch landlord / asiant a thynnu eu sylw at y broblem. Gofynnwch iddyn nhw drefnu’r gwaith atgyweirio o fewn cyfnod rhesymol. Efallai ei bod yn werth dweud wrthyn nhw y bydd yn rhaid i chi gwyno i Adran Iechyd yr Amgylchedd os nad ydy’r gwaith yn cael ei gwblhau.

Os na chaiff y gwaith ei gwblhau, ewch i Gam 2.

Cam 2

Cysylltwch â ni a gallwn ni archwilio’r mater drosoch chi. Bydd angen eich manylion chi arnon ni yn ogystal ag enw a manylion cyswllt eich landlord / asiant, a chrynodeb o’r broblem. Sylwch, os ydych chi'n denant i'r Cyngor, mae'n rhaid i chi gyfeirio'ch cwyn at eich gwasanaeth Tai Cyngor lleol.

Byddwn ni’n cysylltu â’r landlord / asiant ac yn eu hysbysu ein bod wedi derbyn cwyn gan eu tenant, yna byddwn ni’n trefnu ymweld â chi ac archwilio’r tŷ am beryglon posibl.

Os bydd peryglon yn cael eu pennu, byddwn yn eu hasesu, a lle bo’n addas, bydd gofyn i’r perchennog gyflawni’r gwaith angenrheidiol i leihau’r perygl i lefel dderbyniol.

Os na fydd y perchennog yn cytuno i gwblhau’r gwaith o fewn amserlen resymol, efallai byddwn ni’n gweithredu pwerau gorfodaeth yn unol â Deddf Tai 2004 i sicrhau bod y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud. 

Adrodd Ar-lein

Ffurflenni ac Arweiniad