Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dyn yn cael ei erlyn am storio tân gwyllt yn anghywir

Mae dyn o Benarth wedi cael dirwy sylweddol am fethu â storio tân gwyllt yn gywir yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus Safonau Masnach ar ran Cyngor Bro Morgannwg.

29ain Tachwedd 2019

fireworks-press-img-Cropped-287x276Erlynodd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ledled ardaloedd Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a’r Fro, Gurnwab Singh dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.

Fe’i cafwyd yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £1516, ynghyd â chostau £650 a ffi dioddefwr o £151.

Cafodd Mr Singh drwydded ffrwydron i storio tân gwyllt yn A-Z Dragon Discount ar Windsor Road Penarth ym mis Hydref 2017 a fe’i cynghorwyd sut i’w storio yn ddiogel. 

Ond flwyddyn yn ddiweddarach, yn ystod ymweliad swyddogion GRhR daeth nifer o broblemau i’r amlwg, gan gynnwys:

  • Tân gwyllt ar ffurf rocedi wedi’i storio mewn cês dillad ar silff.
  • Nid oedd mesurau ar waith i atal tân rhag lledaenu
  • Nid oedd allanfeydd mewn argyfwng wedi eu cynnal
  • Roedd tân gwyllt wedi ei storio mewn cabinetau rhydlyd gyda phapur fflamadwy
  • Blychau tân gwyllt wedi eu hagor, roedd cyllell mewn un ohonynt, oedd yn peri perygl o drydyllu

Cafodd Mr Singh drwydded ar ôl i’w fodryb, perchennog y siop, ddychwelyd ei thrwydded hi yn 2016 ar ôl cael ei herlyn am droseddau tebyg.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Cadeirydd Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

“Roedd y busnes hwn yn storio tân gwyllt mewn ffordd beryglus, sefyllfa oedd yn peri risg difrifol i aelodau o’r cyhoedd. Mae’r bygythiad o anafiadau neu ddifrod i eiddo yn un wirioneddol ac mae gwaith rhagorol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi arwain at yr erlyniad hwn ac wedi mynd i’r afael â’r perygl hwn.

“Dylai’r achos hwn fod yn rhybudd i eraill sydd wedi ymwneud ag arferion nad ydynt yn ddiogel. Rydym yn cymryd ein dyletswydd o ddifrif iawn a byddwn yn cymryd camau ar unwaith os nad yw pobl yn cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol.”