Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Darganfod pla Chwilod Duon Almaenig mewn siop tecawê yn y ddinas

Cafwyd hyd i chwilod duon wrth ymyl bag agored o flawd, baw a bryntni ar y llawr, y waliau a'r offer, yn ogystal â bagiau gwastraff agored a adawyd mewn ardaloedd paratoi bwyd.

Tachwedd 22ain, 2019

Kebab Kings kitchenDyma a ddarganfuwyd yn y siop tecawê The Kebab Kings yn 64 Tudor Street, Glan-yr-afon, pan ymwelodd swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir â’r busnes ar 9 Hydref 2018, er mwyn cynnal arolygiad. Yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 12 Tachwedd, gorchmynnwyd i’r unig gyfarwyddwr, Mr Imran Kahn, 33, o Neville Street, Caerdydd, dalu dros £1000 ar ôl pledio’n euog i wyth trosedd hylendid bwyd.

Daeth yr achos hwn i’r amlwg, pan basiwyd atgyfeiriad i’r Cyngor gan y gwasanaethau cymdogaeth pan oeddent yn clirio fflat uwchben y siop tecawê ac wedi dod o hyd i bla chwilod duon.Gan weithredu ar y wybodaeth a dderbyniwyd, pan aeth swyddog iechyd yr amgylchedd i mewn i'r siop tecawê, roedd y gegin mewn cyflwr budr iawn ac roedd chwilod duon byw yn rhedeg ar draws y llawr heibio i draed y swyddog. 

Yn dilyn archwiliad pellach, daeth yn amlwg bod gormod o chwilod duon i'w cyfrif a chaewyd y busnes yn wirfoddol gan Mr Imran ar unwaith. Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Roedd yr hyn a ddarganfuwyd yn y busnes hwn yn peri pryder mawr, gan fod chwilod duon yn cario bacteria niweidiol fel Salmonela ac E.coli a all achosi gwenwyn bwyd a hyd yn oed dysentri.

“Gwelwyd y pryfed hyn nid yn unig mewn bag agored o flawd, ond ar yr ardaloedd paratoi bwyd a ddefnyddiwyd i baratoi toes pizza yn ogystal ag mewn ardaloedd eraill lle roedd bwyd yn cael ei baratoi. Roedd hyn yn peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd.”

"Yn ystod yr arolygiad, pan ofynnwyd i Mr Khan a oedd yn ymwybodol o’r broblem, ymatebodd i’r swyddog, gan egluro iddo ddod yn ymwybodol o’r mater “cwpl o ddyddiau yn ôl a bod y busnes yn dioddef anawsterau ariannol a’i fod yn ystyried cau.”

Insect repellent at Kebab KingsErs yr arolygiad mae'r busnes wedi aros ar gau ac nid yw'n masnachu mwyach.Wrth ddarparu lliniariad, dywedodd Mr Khan wrth y llys ei fod wedi prynu rhai chwistrelli pryfed mewn ymgais i drin y pla a'i fod yn bwriadu cysylltu â chwmni rheoli plâu.

Parhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’n bwysig iawn i bob busnes bwyd gydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid Mae arolygiadau arferol yn cael eu cynnal ac rydym hefyd yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir trwy ddilyn y materion hyn gydag arolygiadau."

Cafodd Imran Khan ddirwy o £900, ei orchymyn i dalu costau o £300 gyda gordal dioddefwr o £90.