Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol

Gall gwaith cynnal a chadw gwael ar systemau oeri gwlyb feithrin amgylchiadau lle gall achosion o glefyd y llengfilwyr ddigwydd.

CoolingTowerMae dyletswydd ar bawb sy’n rheoli safle, o dan Reoliad Hysbysu Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol 1992, ddatgan manylion y tyrau oeri a’r cyddwyswyr anweddol hynny wrth yr awdurdod lleol yn ysgrifenedig. 

Dydy hyn ddim yn cynnwys tyrau sy’n cynnwys dŵr nad sy’n gweld golau, na lle nad ydy’r dŵr a’r cyflenwad trydan yn gysylltiedig â’i gilydd.

Y prif reswm dros y broses hysbysu hon ydy adnabod lleoliadau peryglon posibl a chaniatáu adnabod, monitro ac archwilio haws.

 

Cofrestru Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol

I gofrestru tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd neu Fro Morgannwg, ewch i wefan Gov.uk:

Cofrestru Ar-lein

 

Cofrestrau Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol

Mae cofrestrau hysbysiadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg yn agored i’r cyhoedd a gellir eu gweld ar-lein:

 

Arweiniad