Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Esbonio cyfraith Iechyd a Diogelwch

Y brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â iechyd a diogelwch yw Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle etc. 1974 (HASAWA74).

Workers-on-construction-site

Rhennir y cyfrifoldebau dros weithredu deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch rhwng corff y llywodraeth ganolog, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), ac awdurdodau lleol.

Penderfynir pwy sy’n gyfrifol am orfodaeth yn seiliedig ar y ‘prif weithgaredd’ sy’n digwydd ar bob safle.

Pan fydd swyddog iechyd a diogelwch yn galw

Beth i'w ddisgwyl pan fyddwn yn ymweld â'ch busnes

Mae swyddogion yn ymweld â busnesau i sicrhau nad yw eich gweithwyr, ac unrhyw un sy'n ymweld â'ch eiddo masnachol, mewn perygl o niwed o'r adeilad neu unrhyw weithgareddau y gallech fod yn eu cyflawni.

Rydym yn ymweld â llawer o leoliadau bob blwyddyn fel rhan o'n gwaith; gall rhai fod heb rybudd ymlaen llaw. Nid yw hyn yn anarferol ac mae’r gyfraith yn caniatáu i ni gynnal ymweliadau ar unrhyw adeg resymol. Er bod gennym y pwerau i ddod i mewn i’ch gweithle, mae’n dal yn ofynnol i swyddogion ddilyn cod ymarfer y llywodraeth ar fynd i mewn i gartrefi neu fusnesau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn www.gov.uk/guidance/powers-of-entry.

Yn ystod yr ymweliad

Ar ôl cyrraedd bydd y swyddog yn cyflwyno ei hun; dangos cerdyn adnabod â ffotograff i chi ac egluro'r rheswm dros eu hymweliad – gallai hyn fod i ymchwilio i gŵyn; anaf, salwch neu ddigwyddiad peryglus sy'n gysylltiedig â gwaith; mynd ar drywydd hysbysiad statudol; cynnal arolygiad wedi'i dargedu; neu i ddarparu cyngor a chymorth busnes.

Tra bydd y swyddog gyda chi, bydd am nodi sut yr ydych yn sicrhau iechyd a diogelwch eich gweithwyr ac unrhyw un arall a allai gael ei effeithio gan eich gweithgareddau gwaith (gan gynnwys ymwelwyr, cwsmeriaid, gyrwyr dosbarthu a chontractwyr). Gallwch ddisgwyl i'r swyddog edrych o gwmpas eich safle busnes; gofyn am gael gweld darnau penodol o offer neu beiriannau; cais i weld dogfennau perthnasol (e.e. am drefniadau hyfforddi a chynnal a chadw).

Nid yw'n anarferol i swyddog siarad ag aelodau unigol o staff a chynrychiolwyr diogelwch neu undebau llafur. Nid yw'n anarferol i swyddog dynnu lluniau, mesuriadau, samplau neu ofyn am gopïau o ffilm TCC, dogfennau ffisegol neu gofnodion electronig.

Os oes rhaid symud dogfennau o'r safle i'w copïo, bydd y swyddog yn gadael dogfennaeth i chi i gadarnhau hyn. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi hefyd adael ardal, neu offer, heb i neb darfu arnynt os yw’n berthnasol i ymchwiliad parhaus.

Ar ôl yr ymweliad

Ar ôl i’r swyddog gwblhau ei ymweliad, gall:

  • Cynnig cyngor (naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig)
  • Anfon llythyr ffurfiol atoch sy'n nodi'n glir yr holl achosion o dorri amodau cyfreithiol ac argymhellion.
  • Cyhoeddi Hysbysiad Gwella
  • Cyhoeddi Hysbysiad Gwahardd
  • Cychwyn achos cyfreithiol am dorri cyfreithiau iechyd a diogelwch.
  • Hysbysiad Gwella

Bydd hysbysiad gwella yn dweud wrthych:

  • beth sy'n bod
  • pa ddeddfwriaeth a dorrwyd
  • unrhyw newidiadau y mae angen i chi eu gwneud i unioni pethau
  • faint o amser sydd gennych i wneud y newidiadau hynny.

Byddwch yn cael o leiaf 21 diwrnod i wneud unrhyw newidiadau a byddwch yn cael y nodiadau perthnasol sy'n cyd-fynd â hysbysiad gorfodi. Rydych yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn gwneud y newidiadau yn yr amser a roddir i chi.

Hysbysiad Gwahardd

Efallai y cewch hysbysiad gwahardd os oes risg o anaf personol difrifol nawr, neu yn y dyfodol. Mae hysbysiad gwahardd yn eich gorchymyn i roi'r gorau i wneud rhywbeth nes eich bod wedi ei gwneud yn ddiogel i barhau. Rydych yn cyflawni trosedd os nad ydych yn cydymffurfio â hysbysiad gwahardd.

Efallai y byddwch yn derbyn hysbysiad gwahardd i atal gweithgaredd gwaith a hysbysiad gwella yn ei gwneud yn ofynnol i chi wneud yr holl welliannau angenrheidiol.

Erlyniad

Gall yr Awdurdod eich erlyn am dorri cyfreithiau iechyd a diogelwch neu am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella neu hysbysiad gwahardd. Byddai unrhyw benderfyniad i erlyn cwmni neu ddeiliad dyletswydd unigol yn dilyn ystyried ein polisi cydymffurfio a gorfodi. Os cewch eich dyfarnu'n euog, gall y llysoedd eich dirwyo, neu mewn rhai achosion, eich anfon i'r carchar.

Os nad ydych yn cytuno â’n penderfyniad neu’r camau a gymerwyd

Bydd pob llythyr a anfonir atoch gan swyddog yn cynnwys manylion ei rif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost. Os nad ydych yn cytuno â chanlyniad ymweliad swyddog, dylech siarad yn uniongyrchol â’r swyddog ymweld a thrafod eich pryderon.

Os na fydd trafodaeth bellach gyda'r swyddog yn arwain at ganlyniad boddhaol, gallwch godi'ch pryder neu gŵyn yn fwy ffurfiol trwy ddilyn ein gweithdrefn gwyno gorfforaethol.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar ein gwefan yn: www.valeofglamorgan.gov.uk

Gallwch gysylltu â'n pwynt cyswllt canolog ar: 01446 70011 os ydych am wneud eich cwyn dros y ffôn.Gallwch anfon e-bost atom yn: contactonevale@valeofglamorgan.gov.uk. Gallwch ofyn am gopi o'n ffurflen pryder a chwyn gan y person yr ydych eisoes mewn cysylltiad ag ef. Dywedwch wrthynt eich bod am i ni ddelio â'ch pryder yn ffurfiol. Gallwch siarad â derbynnydd yn ein prif dderbynfeydd a llyfrgelloedd. Gallwch ysgrifennu llythyr atom yn y cyfeiriad canlynol: Swyddog Cwynion Cwsmeriaid, Cysylltiadau Cwsmeriaid, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Os dymunwch apelio yn erbyn Hysbysiad Gwella neu Hysbysiad Gwahardd sydd wedi'i gyflwyno i chi, neu eich cwmni, bydd y weithdrefn gywir ar sut i wneud hyn wedi'i nodi ar gefn yr Hysbysiad yn yr adran nodiadau.

Cofrestr Gyhoeddus o Hysbysiadau Gorfodi

Mae Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o rai Hysbysiadau a gyflwynwyd ynghylch iechyd, diogelwch a diogelu'r amgylchedd. Dyma'r fersiwn gryno o'r gofrestr, yn benodol ar gyfer y rhyngrwyd.

Bydd cofnodion y mae'n ofynnol eu gwneud yn y gofrestr yn cael eu gwneud ar unrhyw adeg yn ystod pa un bynnag o'r cyfnodau canlynol sy'n berthnasol:

  • pan nad oes hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad
  • pan fo hawl i apelio, ond na ddygir apêl o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daw amser yr apêl i ben
  • os oes hawl o’r fath a bod apêl yn cael ei dwyn, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daw’r apêl i ben. Pan fydd apêl yn arwain at ganslo Hysbysiad, ni fydd cofnod yn cael ei wneud yn y gofrestr gyhoeddus.
  • lle bo'r Awdurdod yn fodlon y cydymffurfiwyd â'r Hysbysiad, bydd cofnod i'r perwyl hwnnw yn cael ei wneud yn y gofrestr o fewn cyfnod o 7 diwrnod.
  • lle caiff Hysbysiad ei dynnu’n ôl, neu ei ddiwygio, caiff unrhyw gofnodion yn y gofrestr sy’n ymwneud â’r Hysbysiad hwnnw eu dileu neu eu diwygio o fewn cyfnod o 7 diwrnod.

Dylid cyfeirio ymholiadau am hysbysiadau gorfodi cynharach at HealthandSafety-SRSWales@valeofglamorgan.gov.uk

Sylwch na allwch ddefnyddio manylion ar y gofrestr at ddibenion marchnata heb ganiatâd yr unigolion a restrir arni. I gael rhagor o wybodaeth am Ddiogelu Data gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg