Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gwaith adeiladu a dymchwel

Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cydnabod y balans rhwng yr angen am ddatblygiadau newydd ar draws y tri Chyngor, tra’n sicrhau ar yr un pryd fod trigolion a busnesau yn cael eu gwarchod rhag aflonyddwch amgylcheddol yn ystod adeiladaeth o ddatblydgiadau mawr a bach. 

SRS_PollutionControlHandbook_ConstructionA4_E-page-001

Rydym wedi cynhyrchu llawlyfr sydd yn darparu canllawiau i gontractwyr i sicrhau fod aflonyddwch gan sŵn, dirgyniad, llwch a mŵg sydd yn codi yn ystod gwahanol gamau o adeiladu yn cael eu minimeiddio, heb gyfyngiadau di-angen ar gontractwyr.

Gobeithiwn y bydd y ddogfen yn annog contractwyr i gyfathrebu gyda GRhR yn ystod y cyfnodau cynnar, i ddarparu gwyvbodaeth, canllawiau a/neu eglurhad ar ddulliau gweithio ac i gynorthwyo datblygwyr i gydymffurfio gyda deddfwriaethau perthnasol. 

I lawrlwytho’r llawlyfr (pdf), cliciwch ar y linc isod

GRhR Llawlyfr Rheoli Llygredd ar Safleoedd Adeiladu

Ceisiadau am Ganiatâd Blaenorol - CoPA

Mae Deddf Rheoli Llygredd 1974 (CoPA) yn rhoi pwerau i'r Cyngor reoli sŵn a dirgryniadau o safleoedd adeiladu a gwaith arall. Mae adran 61 yn caniatáu i gontractwyr wneud cais am Ganiatâd Ymlaen Llaw a chytuno ar oriau gwaith, lefelau sŵn safle a mesurau eraill cyn i'r gwaith ddechrau.

Pryd i wneud cais

Cwblhewch ffurflen gais CoPA Adran 61 o leiaf 28 diwrnod cyn i'r gwaith ddechrau os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu swnllyd y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried a yw gwaith yn dderbyniol ai peidio o ran diogelu unrhyw drigolion cyfagos neu randdeiliaid eraill sy'n sensitif i sŵn y gallai sŵn a dirgrynu effeithio arnynt.

Yr oriau gwaith arferol yw:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
  • Dydd Sadwrn, 8am i 1pm

Ystyrir dydd Sul a gwyliau banc y tu allan i oriau gwaith arferol. Rhaid gwneud ceisiadau hefyd i ymestyn caniatâd Adran 61 presennol, neu i wneud cais am newid i oriau gwaith neu weithgareddau.

Canllawiau Adran 61 a Ffurflen Gais (Saesneg)

Adran 61 Canllawiau a Ffurflen Gais (Cymraeg)

Gwaith Metro De Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud nifer o waith ar y rheilffordd fel rhan o brosiect Metro De Cymru. Bydd rhywfaint o'r gwaith hwn yn digwydd y tu allan i oriau gwaith arferol. I weld manylion gwaith i’r rhwydwaith rheilffyrdd yn eich ardal ewch i – Work in your area (trc.cymru).