Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Trefn Trwyddedu Amgylcheddol

CoolingTower

I sicrhau ein bod yn amddiffyn yr amgylchedd ac ansawdd yr aer, mae gofyn cael trwydded ar gyfer rhai gweithgareddau, fel cynhyrchu paent neu sych-lanhau.

Mae’n drosedd gweithredu heb drwydded o’r fath. Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn rheoleiddio gwahanol fathau o safleoedd, yn cynnwys gweithfeydd gwydr, ffowndrïau, gorsafoedd petrol, malwyr concrit, melinau coed a gwneuthurwyr paent.

Rhestrir y gweithgareddau hyn yn adran Rheolau Trwyddedu Amgylcheddol ar wefan yr Adran Bwyd a Materion Gwledig

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau Amgylcheddol a gyhoeddwyd gan Bro Morgannwg, Caerdydd  a Phen-y-Bont ar Ogwr neu i weld y dogfennau cofrestr gyhoeddus, cysylltwch â ni.

Gwneud cais am drwydded

Os yw gweithredwr yn dymuno cynnal proses sy'n achosi allyriadau i dir, aer neu ddŵr yna efallai y bydd angen iddo wneud cais am Drwydded Amgylcheddol. Mae'r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol yn dweud wrthym y prosesau perthnasol sy'n gofyn am drwydded amgylcheddol.

Bydd angen i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosibl er mwyn trafod y broses ymgeisio cyn gwneud cais am hawlen

Rhaid i’r awdurdod ymgynghori ag aelodau perthnasol o’r cyhoedd a sefydliadau eraill.

 

Arweiniad Pellach