Dirwy o dros £41,000 i Landlord ac Asiantaeth Osod yng Nghaerdydd am Droseddau Tai Difrifol
Mae landlord ac asiantaeth osod wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £41,400 am fethu â chydymffurfio â rheoliadau tai mewn eiddo oedd yn cael ei osod yng Nglan-yr-afon, Caerdydd
08/12/2025
Clywodd y Barnwr Rhanbarth Rhys Williams yr achos yn erbyn Mohammed Ahad Ali, rhydd-ddeiliad 85 Stryd Tudor, a Lukayan
Property Rentals Ltd, yr asiantaeth benodedig ar 2 Rhagfyr yn Llys Ynadon Caerdydd.
Daeth yr achos i'r amlwg pan dderbyniwyd cwyn bod chwilod duon yn bla yn yr eiddo. Canfuwyd yn ystod arolygiad ym mis Mawrth 2024 bod gan yr eiddo, adeilad Fictoraidd tri llawr gyda fflatiau uwchben uned fasnachol, beryglon lluosog.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- Larwm tân diffygiol a drysau tân anghyflawn
- Llwybrau dianc anniogel a chyfleusterau cegin annigonol
- Lleithder treiddgar, ffenestri diffygiol, a gosodiadau trydan gwael
- Mesuryddion nwy a thrydan heb eu diogelu
Plediodd Mr Ali yn euog i chwe throsedd a chafodd ddirwy o £5,400, a gorchmynnwyd iddo dalu £750 mewn costau, a gordal dioddefwr o £2,000. Cafwyd Lukayan Property Rentals Ltd, a fethodd â mynychu'r llys, yn euog o 12 trosedd a chafodd ddirwy o £36,000, gyda chostau o £3,000 a gordal dioddefwr o £2,000.
Dywedwyd wrth y llys fod asiantaeth wahanol wedi cael ei phenodi ers hynny a bod yr holl waith angenrheidiol bellach wedi'u cwblhau. Roedd Lukayan Property Rentals Ltd wedi cael eu herlyn ym mis Mawrth 2025 am droseddau tebyg mewn eiddo arall yng Nghaerdydd a chawsant ddirwy o £27,000.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Rydym yn gwbl o ddifrif ynghylch diogelwch tai ac yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a roddir gan denantiaid neu'r cyhoedd am landlordiaid ac asiantau anghyfrifol sy'n methu â bodloni safonau cyfreithiol.
"Mae mwyafrif landlordiaid sector preifat Caerdydd yn rhoi gwasanaeth da i'w tenantiaid, ond bydd y rhai nad ydyn nhw’n gwneud hynny yn wynebu camau disgyblu drwy'r llysoedd. Roedd yr eiddo hwn mewn cyflwr gwael iawn, gyda chwilod du yn bla, lleithder treiddgar drwyddi draw, a larymau tân diffygiol. Mae'r materion hyn yn achosi perygl i denantiaid a diolch byth, mae'r holl ddiffygion bellach wedi'u cywiro, fel y gall y tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo bellach fwynhau gwell ansawdd bywyd yn eu cartref."
Roedd y troseddau gan Mohammed Ahad Ali, a Lukayan Property Rentals Ltd yn ymwneud â thorri Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007.