Adroddiadau am dwyllwyr o ddrws i ddrws yn honni eu bod o Gyngor Caerdydd
Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi derbyn adroddiadau gan
drigolion yng Nghaerdydd ynghylch ymweliadau digroeso gan dwyllwyr yn dweud eu bod nhw o'r cyngor.
12.12.2025
Maent yn ddweud bod yna broblem llygod mawr yn y cartref ac yn mynnu arian i'w ddatrys. TWYLL yw hwn! Nid yw gweithwyr y cyngor yn dod heb wahoddiad a dim ond i ddelio â phroblem llygod mawr y byddan nhw'n ymweld â chi os ydych chi wedi rhoi gwybod amdani.
Stopiwch a meddyliwch
Peidiwch â chael eich rhuthro i wneud penderfyniad na fyddech chi fel arfer yn ei wneud. Byddwch yn ofalus o grefftwyr digroeso sy'n galw wrth eich drws yn cynnig gwneud gwaith oherwydd eu bod nhw "yn yr ardal" neu'n "gweithio ar dŷ gerllaw" neu eu bod nhw "newydd fynd heibio a sylwi ar broblem" gyda'ch tŷ.
Gallant wneud i chi feddwl eu bod nhw'n gwneud ffafr i chi. Peidiwch â chytuno i unrhyw beth a cheisiwch farn o grefftwyr arall bob amser. Peidiwch byth â thalu symiau mawr o arian ymlaen llaw. Os dywedir wrthych fod yr arian ar gyfer deunyddiau yna dywedwch y gallwch chi dalu amdano eich hun a'i gael wedi'i ddanfon yn uniongyrchol atoch chi.
Peidiwch byth â thalu ymlaen llaw am lafur na chyflogau gweithwyr. Ceisiwch gael ddyfynbris penodol, manwl bob amser cyn i chi gytuno i unrhyw beth. Gall amcangyfrif newid. Dylai gwaith papur y crefftwr hefyd gynnwys cyfeiriad dilys a manylion ynghylch eich hawliau canslo.
Ceisiwch gael o leiaf dri dyfynbris o grefftwyr arall bob amser am yr un faint o waith a cheisiwch weld enghreifftiau o’u waith blaenorol.Am gyngor pellach ac os bydd anghydfod, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.