Gorchymyn i landlord o Gaerdydd dalu dros £4,500 am gyfres o fethiannau mewn eiddo rhent yn Adamsdown
Mae landlord o Gaerdydd, sydd wedi bod yn destun nifer o erlyniadau ers 1996, wedi cael dirwy eto ar ôl i broblemau diogelwch difrifol gael eu canfod yn un o'i eiddo rhent yn Adamsdown.
21/05/26
Mae Mr Ahmed yn berchen ar chwe eiddo yng Nghaerdydd y mae wedi eu troi'n 20 o fflatiau. Mae pedwar o'r fflatiau hyn mewn eiddo
gwahanol ar Heol Lydan yn wag ar hyn o bryd ar ôl i Orchmynion Gwahardd Brys gael eu rhoi ar waith ym mis Mai 2023 oherwydd bod peryglon difrifol wedi’u canfod, yn dilyn arolygiad gan swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Ym mis Ebrill 2025, arolygodd swyddogion y cyngor eiddo ar Bradley Street a chanfod ei fod wedi'i drawsnewid yn anghyfreithlon yn ddau fflat hunangynhwysol heb ganiatâd cynllunio na chymeradwyaeth gan yr adran Rheoli Adeiladu.
Canfu'r arolygiad yn yr eiddo hwn hefyd nifer o bryderon diogelwch difrifol, gan gynnwys:
- Dim system larwm tân briodol
- Dim drysau tân na gwahanu tân
- 'Gardd do' anniogel wedi'i hadeiladu ar ben ystafell wydr anghyfreithlon
- Rheilen warchod anniogel ar ben y grisiau
- Ystafelloedd gwely a oedd yn rhy fach
- Peryglon baglu a diogelwch gwael
- Dim profion diogelwch trydanol rheolaidd
Yn dilyn y canfyddiadau hyn, cyhoeddodd swyddogion y cyngor Orchymyn Gwahardd Brys arall, yn gwahardd yr eiddo rhag cael ei ddefnyddio fel llety preswyl ac ysgogwyd erlyniad cyfreithiol am dorri rheoliadau tai yn ddifrifol.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai yng Nghyngor Caerdydd: "Mae landlordiaid sector preifat yng Nghaerdydd yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth gyfrannu at stoc dai Caerdydd, ac mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn darparu gwasanaeth rhagorol i'w tenantiaid. Fodd bynnag, fel mae’r achos hwn yn ei ddangos, mae yna rai sy'n dewis blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Mae gan landlordiaid ddyletswydd gyfreithiol i wneud yn siŵr bod eu heiddo yn ddiogel. Roedd yr amodau a ganfuwyd yn yr eiddo hwn yn annerbyniol ac yn rhoi tenantiaid mewn perygl.
"Byddwn yn parhau i gymryd camau gweithredu cadarn yn erbyn landlordiaid sy'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau ac yn torri'r gyfraith."
Yn dilyn yr achos llys, cysylltodd swyddogion gorfodi cynllunio â Mr Ahmed ac ers hynny mae wedi tynnu'r ardd do anniogel a thrawsnewid yr eiddo yn Bradley Street yn ôl i un cartref.
Cafodd Mr Ahmed ddirwy o £1,080, a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £432 a £3,000 mewn costau. Rhaid iddo dalu cyfanswm o £4,512 o fewn 90 diwrnod i'r ddedfryd.