Gorchymyn i berchennog a chyfarwyddwr siop yn Nhrelái dalu ychydig dros £9,000
Mae perchennog busnes o Gaerdydd a'i gwmni wedi cael gorchymyn i dalu ychydig dros £9,000 yn dilyn pla llygod mawr a ddarganfuwyd yn Family Choice Minimarket yn Nhrelái, Caerdydd.
18/05/26
Mynychodd Mr Jeyaratnam Pathmastri o Heol Muston, Trelái, Caerdydd, Lys Ynadon Caerdydd ar 12 Mai, lle plediodd yn euog i dri
chyhuddiad yn ei erbyn ef a'i gwmni, Family Choice T&N Ltd. Roedd hyn yn dilyn ple dieuog blaenorol a gyflwynwyd ar 11 Mawrth.
Daeth yr achos i'r amlwg pan ymchwiliodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i Family Choice Minimarket yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd ym mis Awst 2024. Adroddodd y gŵyn fod baw llygod mawr a bwyd halogedig ar y safle ar ôl i'r achwynydd brynu torth o fara ac yn ddiweddarach dod o hyd i dyllau yn y deunydd pacio.
Ymwelodd swyddogion y cyngor â'r siop ar 19 Awst 2024 a dod o hyd i arwyddion clir o bla llygod mawr gweithredol, gan gynnwys baw ar draws llawr y siop, ar silffoedd bwyd ac mewn mannau storio. Roedd ychydig o’r deunydd pacio bwyd wedi cael eu difrodi neu eu cnoi gan blâu.
Yn ystod yr ymweliad hwn, cynhaliwyd arolygiad hylendid bwyd, a dyfarnwyd sgôr hylendid bwyd o 0 i'r busnes, sy'n golygu bod angen gwelliant brys.
Dangosodd adroddiadau rheoli plâu blaenorol fod y busnes wedi bod yn delio â phroblemau llygod mawr ers mis Ebrill 2024. Fodd bynnag, nid oedd camau allweddol i atal y pla, fel selio tyllau a gwella glanhau ledled y siop, wedi'u cyflawni.
Oherwydd y risg ddifrifol i iechyd, roedd y busnes yn cwrdd â'r trothwy cyfreithiol ar gyfer cau a gofynnwyd iddo wneud hynny ar unwaith. Cytunodd landlord a brawd Mr Pathmastri, a oedd yn bresennol ar y pryd, i gau'r siop yn wirfoddol ar ei ran.
Er bod gwaith glanhau a rheoli plâu wedi'i wneud a bod y siop wedi ailagor am gyfnod byr, derbyniwyd cwynion pellach ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Dychwelodd swyddogion a daethon nhw o hyd unwaith eto i faw llygod mawr ffres, bwyd wedi'i ddifrodi ac amodau gwael, gan arwain at gau'r siop yn wirfoddol am yr eildro.
Dros yr wythnosau canlynol, gwnaeth y busnes waith diogelu rhag plâu, tynnu deunyddiau a ddifrodwyd a chwblhau gwaith glanhau trylwyr. Cynhaliodd swyddogion ac arbenigwyr rheoli plâu sawl arolygiad i sicrhau bod y pla wedi'i ddatrys. Caniatawyd i'r siop ailagor dim ond ar ôl i swyddogion fod yn fodlon nad oedd risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd mwyach.
Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'n hanfodol bod gan bob busnes sy'n gwerthu bwyd fesurau effeithiol ar waith i reoli plâu. Roedd y dystiolaeth o bla llygod gweithredol yn cyflwyno risg sylweddol o halogiad bwyd, a all gael canlyniadau difrifol i iechyd y cyhoedd.
"Mae'n hanfodol bwysig bod pob perchennog busnes yn gweithredu'n gyflym wrth ddelio â materion rheoli plâu a sicrhau eu bod yn bodloni'r holl ofynion cyfreithiol i amddiffyn eu cwsmeriaid."
Cafodd Mr Jeyaratnam Pathmastri ddirwy o £490 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £198 a £1,980 mewn costau.
Cafodd Family Choice T&N Ltd ddirwy o £3,600 a gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £1,040 a £2,000 mewn costau.