Dirwy i landlord o Gaerdydd am eiddo anniogel a heb drwydded
Mae landlord o Gaerdydd wedi cael dirwy ar ôl i gyfres o dorri rheolau diogelwch tai difrifol gael eu darganfod mewn eiddo yn Nhreganna
6/5/2026
Roedd gollyngiadau dŵr yn cysylltu ag offer trydanol, rhagofalon tân annigonol, a chreu atodiad preswyl yn anghyfreithlon yn rhai o'r
torriadau a ddarganfuwyd.
Ym mis Medi 2025, derbyniodd swyddogion y Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir (SRS) gŵyn gan ddeiliad y fflat deulawr ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf yn 328 Heol y Bont-faen Dwyrain, Nhregann, yn adrodd am ddŵr yn gollwng i'r uned defnyddwyr trydanol.
Mae'r eiddo teras Fictoraidd yn cynnwys uned fasnachol wag ar y llawr gwaelod, fflat ar y llawr cyntaf, a'r fflat deulawr.Cadarnhaodd gwiriadau fod yr atodiad wedi'i greu heb ganiatâd cynllunio ac nad oedd wedi bod yn destun goruchwyliaeth Rheoli Adeiladu.
Canfuwyd hefyd nad oedd y lesddeiliad, Mr Small, wedi'i gofrestru na'i drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.Nododd archwiliadau a gynhaliwyd ym mis Hydref 2025 nifer o beryglon difrifol, gan gynnwys:
- Dim system larwm tân ddigonol
- Drysau mynediad fflat nad oeddent yn ddrysau tân cydymffurfiol
- Diffyg systemau gwresogi sefydlog
- Rhaniadau nad oeddent yn darparu'r gwrthiant tân gofynnol
- Ystafell wely yn y fflat deulawr wedi'i ffurfweddu fel ystafell fewnol heb lwybr dianc diogel
- Peryglon baglu a chwympo
- Gardd gefn wedi gordyfu gyda chroniadau sy'n debygol o ddenu cnofilod
Daeth swyddogion i'r casgliad bod Mr Small wedi methu â chydymffurfio â Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007) a bod yr eiddo yn cyflwyno risgiau difrifol ac uniongyrchol i'r deiliaid.Cyflwynwyd cais am wybodaeth i Mr Small ar 6 Hydref 2025 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, yn gofyn am fanylion pob person sy'n ymwneud â'r eiddo. Methodd â chydymffurfio â'r hysbysiad statudol hwn. Oherwydd difrifoldeb y peryglon, gwnaed Gorchymyn Gwahardd Brys mewn perthynas â'r fflat deulawr yn yr atodiad, gan atal ei feddiannu nes bod gwaith diogelwch hanfodol wedi'i gwblhau.
Daeth y Gorchymyn i rym ar unwaith. Wedi hynny, paratowyd achos erlyniad am 19 trosedd o dan Ddeddf Tai 2004, Deddf Tai (Cymru) 2014, a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Clywyd yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 1 Mai 2026, lle mynychodd Mr Small a phlediodd yn euog i bob un o'r 19 cyhuddiad.
Gosododd yr ynadon:
- Dirwy o £369
- £464 tuag at gostau Cyngor Caerdydd
- Gordal dioddefwr o £148
Dywedodd Christina Hill, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:
“Mae'r achos yn dangos pwysigrwydd trwyddedu priodol, rheoli eiddo'n ddiogel, ac ymgysylltu'n gynnar â swyddogion gorfodi. Lle mae landlordiaid yn methu â chyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol, cymerir camau ffurfiol i amddiffyn tenantiaid a'r gymuned ehangach.”