Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cludo a Chofnodi Anifeiliaid

Mae angen trwyddedau cludiant ar gyfer rhai mathau o anifeiliaid fferm er mwyn cofnodi eu lleoliad.


PigRhaid i symud anifeiliaid yng Nghymru gydymffurfio ag amodau’r Drwydded Gyffredinol berthnasol. Mae symudiadau da, ceirw, defaid, geifr a moch wedi eu rheoli gan drwydded gyffredinol a roddir gan Lywodraeth Cymru.

  • Nawr mae'n rhaid i'r ceidwad roi gwybod i EID CYMRU am bob symudiad defaid a geifr o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r symudiad ddigwydd. EID CYMRU, Tŷ Merlin, Parc Merlin, Aberystwyth SY23 3FF
  • Rhaid adnabod pob anifail yn gywir cyn gadael y safle gwreiddiol.
  • Rhaid cofnodi pob genedigaeth, marwolaeth a chludiant yn y gofrestr berthnasol ar y fferm.

Gwneud Cais

Trwydded Gyffredinol

Rhai i symud da byw yng Nghymru gydymffurfio ag amodau’r drwydded gyffredinol berthnasol. Gallwch wneud cais am Drwyddedau Cyffredinol Cludiant ar wefan Llywodraeth Cymru:

Trwyddedau Cyffredinol Cludiant

Trwyddedau Cludo Anifeiliaid

Yn ogystal â’r drwydded gyffredinol, rhaid cael trwydded symud anifeiliaid cyn cludo da byw i unman. Am ragor o gyngor, wybodaeth ac am ddogfenau lawrlwthiadol able documents, ymwelwch â wefan EID Cymru drwy glicio ar y linc isod

  • Rhaid cludo defaid a geifr â Ffurflen Drwydded Cludo Anifeiliaid 1 (AML1)
  • Rhaid i dda gael eu cludo gyda’u pasborts
  • Rhaid cludo ceirw â Ffurflen Drwydded Cludo Anifeiliaid 24 (AML24)
  • Rhaid rhagnodi cludiant moch ar y system eAML2 a’u symud â chrynodeb y cludwr

http://www.eidcymru.org/

Arweiniad