Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Lles Anifeiliaid

Yn unol â Deddf Lles Anifeiliaid 2006 mae’n ddyletswydd ar bob unigolyn sy’n gyfrifol am anifail, neu â gofal anifail, boed hynny ar sail barhaol neu dros dro, sicrhau ei fod yn diwallu anghenion yr anifail hwnnw.


Waif DogMae unigolyn yn cyflawni trosedd os ydy gweithred, neu ddiffyg gweithred, ar ei ran yn peri dioddefaint diangen i anifail.

Ymhlith anghenion anifeiliaid mae:

  • Cartref addas
  • Deiet addas
  • Y rhyddid i ymddwyn yn normal
  • Cael eu cadw gyda, neu heb, anifeiliaid eraill yn ôl yr angen
  • Cael eu hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anafiadau ac afiechydon

 

Dweud wrthon ni

Ffermydd da byw neu Safleoedd Trwyddedig

Bydd swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn archwilio unrhyw ddigwyddiadau y dywedir wrthon ni amdanyn nhw sy’n ymwneud â materion lles anifeiliaid ar ffermydd da byw neu safleoedd trwyddedig. I ddweud wrthon ni am fater o bryder, cysylltwch â’r GRhR:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

RSPCA-logo

Anifeiliaid Anwes ac Anifeiliaid Gwyllt

Os ydych chi’n ymwybodol o faterion lles sy’n ymwneud â’r uchod, ewch i wefan yr RSPCA.

 


Arweiniad