Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Wardeniaid Cŵn ac Anifeiliaid eraill

Yn gweithio i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel rhag cŵn crwydr a chŵn peryglus ac  anifeiliaid crwydr eraill. Yn ogystal, darparu gwybodaeth ac addysg ar berchnogaeth gyfrifol.


Dog Lie DownYmhlith dyletswyddau Wardeniaid Cŵn ac Anifeiliaid eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, mae:

  • Casglu cŵn / anifeiliaid crwydr eraill ac anifeiliaid nad oes eu heisiau
  • Dychwelyd cŵn / anifeiliaid coll eraill at eu perchnogion
  • Rhoi cyngor a darparu addysg i berchnogion cŵn / anifeiliaid eraill
  • Archwilio cwynion am gŵn ymosodol
  • Archwilio achosion baw ci a phatrolio amdano
  • Addysg a sgyrsiau mewn ysgolion

 

Gorchmynion Rheoli Cŵn (DCO)

Rhoddir Gorchmynion Rheoli Cŵn i orfodi perchnogaeth cŵn gyfrifol. Os ydych yn derbyn DCO, efallai bydd rhaid i chi wneud yr isod mewn ardaloedd cyhoeddus:

  • Cadw’r ci ar dennyn
  • Rhoi’r ci ar dennyn os oes plismon, swyddog heddlu cymorth cymunedol neu swyddog iechyd yr amgylchedd yn dweud wrthoch chi am wneud
  • Atal y ci rhag mynd i lefydd penodol, fel tir fferm neu rannau o barc
  • Cyfyngu’r nifer o gŵn sy gyda chi
  • Tacluso ar ôl y ci

Adrodd Anifeiliaid Crwydr neu Anifeiliaid Peryglus

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i adrodd anifeiliaid crwydr neu anifeiliaid peryglus, yn cynnwys cŵn ac anifeiliaid fferm. Fel arfer, bydd y cwyn yn cael ei ddatrys o fewn 5 diwrnod gwaith. Disgwylir ymateb i gŵn peryglus o fewn 2 ddiwrnod gwaith yn ddibynnol ar y sefyllfa.

Pen-y-bont ar Ogwr: 0300 123 6696
Caerdydd: 02920 711243
Bro Morgannwg: 0300 123 6696

Cŵn Coll

Os aiff eich ci ar goll, rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir neu’r cynelau agosaf cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli bod y ci ar goll.

Pen-y-bont ar Ogwr: 0300 123 6696
Caerdydd: 02920 711243
Bro Morgannwg: 0300 123 6696

Noder: Codir tâl dyddiol am fwyd, llety, gofal milfeddygol a chostau pigiadau, yn ogystal â dirwy statudol y llywodraeth, os bydd eich ci’n cael ei gludo i gynelau.

Dod o hyd i Gŵn

Os dewch chi o hyd i gi sy’n amlwg ar goll, edrychwch i weld a ydy e’n gwisgo coler a disg adnabod. Efallai y byddwch chi eisiau cadw gafael ynddo tra byddwch yn ceisio dod o hyd i’r perchennog. Mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi i gysylltu â’ch awdurdod lleol hefyd:

Pen-y-bont ar Ogwr: 0300 123 6696
Caerdydd: 02920 711243
Bro Morgannwg: 0300 123 6696

Rhowch fanylion y ci a’r man lle daethoch o hyd iddo. Bydd angen gwirio a oes microsglodyn gan y ci gan ein warden cŵn, milfeddyg neu pan ewch chi ag e i gynelau.

Byddwn ni’n gweld a ydy’r perchennog wedi adrodd ci coll. Os na, bydd y warden cŵn yn dod i gasglu’r ci gennych yn ystod oriau swyddfa.

Ffurflenni

Arweiniad