Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ceffylau

Gwybodaeth ynghylch Dogfennau Adnabod Ceffylau (Pasborts Ceffylau) a phori anghyfreithlon.


Woman on HorseCyflwynwyd nifer o reolau’n ymwneud â Phasborts Ceffylau o dan reoleiddiad yr UE ar 1 Gorffennaf 2009.

  • Bydd rhaid i bob perchennog sy’n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf sicrhau bod microsglodyn yn y ceffyl
  • Dim ond perchnogion gall wneud cais am basbort
  • Dim ond milfeddyg sydd â’r hawl i roi microsglodyn yn yr anifail
  • Rhaid i basbort gael ei gludo gyda’r anifail ar bob taith, a bod ar gael i’w archwilio bob amser
  • • Rhaid eithrio pob ceffyl o’r gadwyn fwyd dynol os oes ganddo bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau heb eu hawdurdodi ar gyfer anifeiliaid sydd yn y gadwyn fwyd, yn cynnwys BUTE (Phenylbutazone)

 

Yn ogystal:

  • Rhaid i berchnogion neu geidwaid sy’n gyfrifol am y ceffyl ddangos y pasbort heb oedi yn achos archwiliad
  • Bydd ceffylau sy’n derbyn pasbort cyntaf y tu hwnt i’r dyddiad terfynol yn cael eu heithrio o’r gadwyn fwyd
  • Pan fo ceffyl yn marw, mae gofyn i’r perchennog ddychwelyd y pasbort at yr awdurdod a’i roddodd o fewn 30 diwrnod i’r farwolaeth

 

Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

  • Bydd y rheol flaenorol, nad oedd angen microsglodyn ar geffylau a aned cyn 2009 ond bod arnynt angen pasbort, yn dod i ben ym mis Chwefror 2020. Mae’r gofyniad newydd yn nodi bod rhaid i bob ceffyl a’u hybridau a oedd yn dod dan y cymal blaenorol hwn gael microsglodyn erbyn y dyddiad uchod.
  • Rhaid i unrhyw un sy’n prynu ceffyl neu hybrid anfon y pasbort i'r awdurdod pasbort perthnasol o fewn 30 diwrnod i'w ddiweddaru gyda'i enw. Rhaid bod ganddynt hefyd dderbynneb fel prawf prynu a gallu dangos hwn yn ogystal â'r cyfeiriad PIO ar gais Swyddog Awdurdod Lleol a rymusir dan y ddeddfwriaeth.
  • Rhaid i bob ceffyl a’u hybridau sy’n 6 mis oed erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y’u ganed (pa bynnag un ddaw gyntaf) gael microsglodyn a phasbort.
  • NI ddylid gwerthu ceffylau a’u hybridau heb basbort dilys.
  • Dyddiad cau microsglodyn ceffylau: 12 Chwefror 2021 Daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym ym mis Chwefror 2019. Maent yn nodi cyfrifoldebau ar gyfer ceidwaid ceffylau, perchnogion neu fridwyr. Maent hefyd yn nodi gofyniad i nodi ceffylau, merlod, asynnod neu anifeiliaid cysylltiedig â microsglodyn, yn ogystal â phasbort. Os oes angen i chi drafod y dyddiad cau hwn, cysylltwch â ni ar 0300 123 6696

Pori anghyfreithlon

Pori anghyfreithlon (fly grazing) ydy’r term sy wedi cael ei fathu i ddisgrifio gweithredoedd perchnogion anghyfrifol ceffylau, sy’n gadael i’w hanifeiliaid bori ar dir lle nad ydynt wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr, yn fwriadol neu drwy esgeulustod.

Mae Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn rhoi pwerau i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gipio a chorlannu ceffylau a phonis sy’n pori’n anghyfreithlon, yn crwydro neu wedi eu gadael yn amddifad.

 

Dwedu wrthon ni am Bori Anghyfreithlon a Cheffylau ar Grwydr neu wedi eu Gadael

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir os oes un o’r materion yma’n effeithio arnoch chi, yn eich cymuned neu ar eich tir:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Arweiniad