Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cartrefi Gwag

Rheoli cartrefi gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn edrych ar eiddo sy wedi bod yn wag am gyfnod o fwy na chwe mis. Gelwir y rhain yn Empty Homesgartrefi gwag annhrosiannol.

Gall eiddo gwag ysgogi ymddygiad anghymdeithasol, yn cynnwys mynediad heb awdurdod, gweithgareddau troseddol, fandaliaeth, tipio anghyfreithlon a phlâu. Os ydy eiddo’n cael ei esgeuluso, bydd yn dirywio ac yn troi’n niwsans, gan ddifetha cymdogaeth.

Mae sawl rheswm pam gall eiddo fod yn wag ac aros yn wag. Mae’r Cyngor yn barod i gydweithio â’r perchnogion i ddatrys y broblem a delio â’r materion sy’n cael eu hachosi gan yr eiddo gwag, ac o bosibl, sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio.

Dweud wrthon ni

Os gwyddoch chi am gartref gwag ym Mhen-y-bont at Ogwr, Caerdydd neu Fro Morgannwg, dywedwch wrthon ni er mwyn i ni gysylltu â’r perchennog a chymryd camau i arbed iddo ddirywio.Pan fyddwch yn cysylltu, bydd angen i chi roi’r manylion isod i ni:

  • Eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt
  • Cyfeiriad llawn y cartref gwag ac enw a chyfeiriad a manylion cyswllt y perchennog (os ydynt yn hysbys)
  • Manylion y broblem / y niwsans a achosir gan y ffaith fod y cartref yn wag

Os nad ydych chi eisiau i ni gysylltu â chi na rhoi eich manylion i ni, gallwch chi ddweud wrthon ni’n ddienw.Caiff eich adroddiad ei brosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd tîm y sector cartrefi preifat yn ceisio cydweithio â’r perchennog i’w annog i ddefnyddio’r cartref o’r newydd.Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad ydy gadael cartref yn wag yn drosedd, ac nid ydy bob amser yn bosibl gweithredu’n orfodol. Dim ond fel cam olaf y byddwn yn gweithredu’n orfodol, pan fydd y tŷ yn achosi niwsans neu’n dechrau difetha’r gymdogaeth.I ddweud wrthon ni am gartref gwag, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

 

Troi Tai’n Gartrefi 

Ydych chi'n berchen ar dy sydd wedi bod ynwag am chwe mis neu fwy yn ardal Caerdydd? Gallech fod yn gymwys ar gyfer cyfran o'r arian sydd ar gael trwy gynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru er mwyn adfywio eiddo. Bydd modd i unrhyw un gyda eiddo gwag wneud cais am fenthyciad di-log er mwyn ei adnewyddu a’i wneud yn addas i fyw ynddo. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Os ydych chi’n berchen ar dŷ sy wedi ei adael yn wag, edrychwch pa ddewisiadau sy gennych. Gallwch chi gael cyngor i berchnogion tai gwag ar wefan Cartrefi Gwag.

Mae'n bosib hefyd i chi lawrlwytho ein Canllaw i berchnogion Eiddo Gwag am ragor o wybodaeth

Mae cyngor pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.