Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Troseddau Stepen Drws

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi ymrwymo i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed, a mynd i’r afael ag arferion masnachu gwael.

Door-to-Door-Salesperson

I gyflawni hyn, rydyn ni’n gweithio gydag asiantaethau partner ledled ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Gall unrhyw un gael eu heffeithio gan drosedd stepen drws, ond yn aml, caiff pobl hŷn a phobl agored i niwed eu targedu gan fasnachwyr twyllodrus sy’n gynnig gwasanaethau fel trwsio toeon neu lwybrau, neu dwtio’r ardd etc.

Bydd y masnachwr twyllodrus yn rhoi pris rhesymol ar y gwaith i ddechrau, ond unwaith bydd y gwaith ar y gweill, byddan nhw’n cynyddu’r pris yn sylweddol.

Bydd y gwaith o safon isel iawn, ac yn aml, bydd eu manylion cyswllt yn rhai ffug a bydd yn amhosibl dod o hyd iddyn nhw.

Pan mae rhywun wedi cael eu twyllo gan y math hwn o droseddwr unwaith, weithiau, byddant yn cael rhagor o ymweliadau gan fasnachwyr tebyg. Gall ymwelwyr ffug honni eu bod yn gweithio i’r cyngor, yr heddlu, y gwasanaeth iechyd, cwmni ymchwil marchnata neu gwmni ffôn neu adnoddau eraill er mwyn i chi eu gwahodd i mewn i’ch cartref.

Byddai’n hawdd meddwl mai dim ond problem sy’n effeithio ar bobl hŷn ydy hon, ond gall rhywun fod yn agored i niwed am nifer o resymau eraill, yn cynnwys:

  • Cyfnod o alaru ar ôl profedigaeth yn y teulu
  • Cyflwr iechyd meddwl
  • Iechyd gwael neu anabledd corfforol
  • Byw ar eich pen eich hun
  • Unigrwydd cymdeithasol
  • Bod yn rhiant sengl â phlant ifanc

Bydd swyddogion yn archwilio ac yn cydweithio ag asiantaethau gorfodaeth eraill, yn cynnwys Heddlu De Cymru. Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaid allweddol i ddiogelu budd defnyddwyr.

Yng ngoleuni erlyniad llwyddiannus diweddar am dwyll adeiladwr twyllodrus a gymerwyd gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir, hoffem roi rhywfaint o gyngor i chi os bydd unrhyw un sy'n cynnig gwneud gwaith ar eich eiddo yn cysylltu â chi neu os ydych wedi cael gwaith wedi'i wneud ac wedi dod ar draws problemau

  • Os bydd rhywun sy'n cynnig gwneud gwaith i chi yn cysylltu â chi, yna mae'n syniad da cael barn adeiladwyr eraill yn gyntaf. Peidiwch â rhuthro i wneud penderfyniad. Ni fydd masnachwr ag enw da yn eich pwyso i wneud penderfyniad yn y fan a'r lle;
  • Os yw adeiladwr o'r fath yn honni bod angen y gwaith ar frys yna mae'n hanfodol eich bod chi'n cael barn arall. Mae creu amheuaeth a chychwyn ar frys yn dacteg a ddefnyddir gan adeiladwyr twyllodrus;
  • Mae talu blaendal bach am waith y cytunwyd arno yn dderbyniol oherwydd mae hyn yn sicrhau'r cytundeb ond peidiwch byth â thalu symiau sylweddol ymlaen llaw am ddeunyddiau nac am dalu gweithwyr yr adeiladwr cyn i unrhyw waith ddechrau. Bydd gan adeiladwyr parchus gyfrif masnach gyda masnachwyr a setlir yn ddiweddarach;

Roofer

  • Gallwch gytuno i wneud taliadau fesul cam. Hynny yw, ar gyfer pob rhan o'r gwaith sydd wedi'i gwblhau'n foddhaol gellir gwneud taliad am y gwaith hwnnw ac ati nes ei gwblhau;
  • Gall y fath o waith ar eich eiddo yn ei wneud yn ofynnol ichi gysylltu ag adran Rheoli Adeiladu eich cyngor lleol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Mae'r cyfrifoldeb i wneud hwn ar berchennog y tŷ ond dylai adeiladwr hefyd fod yn ymwybodol o ofynion o'r fath. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â’r adran Rheoli Adeiladu rhag ofn;
  • Os ydych chi'n cytuno i gael gwaith wedi'i wneud, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cael gwaith papur gan yr adeiladwr. Dylai'r wybodaeth ar y gwaith papur hwn nodi enw a chyfeiriad yr adeiladwr, dadansoddiad o'r dyfynbris a manylion eich cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod;
  • Os ydych chi am ildio'ch hawl i ganslo yn ystod y cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod yna mae'n rhaid i'r adeiladwr roi ffurflen i chi ei llenwi i gofnodi hyn. Sicrhewch mai eich dewis eich hun yw hon ac nid un a awgrymwyd gan yr adeiladwr;
  • Peidiwch â bod dan bwysau i gytuno i wneud unrhyw waith ychwanegol ar ben yr hyn a gytunwyd eisoes;
  • Os oes gennych broblem gyda'r gwaith sy'n cael ei wneud yna mae gennych hawl i ofyn am farn adeiladwr gwahanol neu dirfesurydd. Os yw’r adran Rheoli Adeiladu yn gysylltiedig, yna byddant yn archwilio'r gwaith ar wahanol gamau;
  • Os oes gennych gŵyn ddilys am y gwaith, yna fe'ch cynghorir i wneud cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig trwy lythyr neu e-bost at yr adeiladwr gan roi'r cyfle iddynt unioni'r holl faterion a nodwyd. Fe'ch cynghorir i gael dyfynbrisiau gan adeiladwyr eraill i bennu cost cywiro os ydych chi'n dod ar draws problemau ac mae'n rhaid i chi fynd â'r mater ymhellach.

Os oes gennych fater yr hoffech ei drafod ymhellach, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144

Dweud wrthon ni: Masnachwr Twyllodrus

Peidiwch byth â bod ofn dweud wrthon ni am unrhyw unigolion neu weithgareddau amheus yr olwg drwy ffonio:

101 parthed masnachwr twyllodrus posibl, neu

999 os oes masnachwr twyllodrus wedi derbyn arian gennych ac mae e yn eich cartref neu yn y cyffiniau.

Parthau Rheoli Galwadau Diwahoddiad

Dyma bobl sy’n dod at eich drws ffrynt yn ddirybudd, yn cynnig nwyddau a / neu wasanaethau, er enghraifft, ffenestri dwbl, benthycwyr arian stepen y drws neu werthwyr eraill.

Mewn ymgais i reoli hyn, rydyn ni wedi sefydlu Ardaloedd Rheoli Galwadau Diwahoddiad, lle mae galwadau diwahoddiad yn cael eu rheoli’n llym.

Er nad yw galw ddiwahoddiad yn anghyfreithlon, gofynnir i fusnesau a sefydliadau eraill barchu dymuniad trigolion sy’n byw mewn ardaloedd o’r fath a pheidio â chnocio ar eich drws.

I drafod sefydlu Ardal Rheoli Galwadau Diwahoddiad, cysylltwch â ni:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU