Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Anogir lleoliadau lletygarwch i drefnu gwiriadau ar gyfer gosodiadau awyr agored cyn cyfnod prysur

Mae tafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch eraill yn cael eu hannog i sicrhau bod gosodiadau trydanol ac offer trydanol i’w defnyddio mewn mannau awyr agored yn ddiogel wrth iddynt ddechrau yn nhymor y gwanwyn a’r haf.

April 6th, 2022

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gweithio gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant lletygarwch a swyddogionPub outdoor lights gorfodi awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth a gwella safonau diogelwch.

Mae HSE yn pwysleisio y dylai lleoliadau drefnu i berson cymwys wneud gwaith gosod trydanol, gan ddefnyddio goleuadau a gwresogyddion wedi'u cynllunio'n benodol i'w defnyddio yn yr awyr agored yn unig, a gwirio offer yn rheolaidd am ddifrod neu ddŵr yn mynd i mewn. Dylid archwilio, profi a chynnal a chadw’r gosodiadau sefydlog a’r offer trydanol yn unol â Rheoliadau Trydan yn y Gweithle 1989.

Dywedodd John Rowe, Pennaeth Strategaeth Weithredol HSE: “Bydd y sector lletygarwch yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous a phrysur, wrth iddo baratoi ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf, a fydd yn cynnwys digwyddiadau mawr fel Gemau’r Gymanwlad a Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Bydd y rhai sy'n gyfrifol am fannau awyr agored yn bwriadu eu defnyddio. Mae’n bwysig sicrhau bod offer trydanol mewn cyflwr da, yn enwedig gan ei fod yn bosibl nad yw wedi bod yn cael ei ddefnyddio a’i storio am gyfnod hir.”

Mae'r wybodaeth isod ar gyfer gosod a defnyddio offer trydanol sydd angen plygio i mewn. Dylai unrhyw un sy'n dewis, defnyddio neu gynnal a chadw offer o'r fath fod yn gymwys i wneud hynny.

Cyn gosod unrhyw offer awyr agored:

  • Ystyriwch ddefnyddio offer foltedd isel neu solar ychwanegol i ddarparu gosodiad mwy diogel
  • Dewiswch offer sy'n addas i'w ddefnyddio yn yr awyr agored yn unig
  • Gwiriwch nad yw offer wedi'i ddifrodi yn enwedig os yw wedi'i storio ers defnydd blaenorol.
  • Sicrhewch fod y gosodiad trydanol presennol mewn cyflwr da ac yn gydnaws â'r offer i'w gosod. Bydd hyn yn cynnwys gallu ymdopi â'r llwyth trydanol fel nad yw cylchedau a socedi'n cael eu gorlwytho
  • Sicrhewch mai dim ond i soced a ddiogelir gan RCD addas y caiff offer ei gysylltu.
  • Sicrhewch fod y socedi mewn cyflwr da, yn addas i’w defnyddio yn yr awyr agored os yw’n briodol ac mewn lleoliad lle na fydd cwsmeriaid yn cael mynediad iddynt nac yn cael eu difrodi.
  • Tynnwch offer o'i becynnu cyn ei osod
  • Diffoddwch y cyflenwad trydan cyn cysylltu

Yn ystod gosod ac wrth ddefnyddio'r offer:

  • Darllenwch a dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’u cadw er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol
  • Sicrhewch fod offer yn cael eu gosod mewn mannau lle na fydd yn cael eu difrodi ac i ffwrdd o ddeunyddiau ac addurniadau fflamadwy.
  • Gwiriwch yn aml am unrhyw ddifrod i offer a gosodwch lampau newydd yn lle rhai sydd wedi methu fel y bo'n briodol.
  • Diffoddwch bob amser cyn gosod lampau newydd a defnyddiwch y lamp newid gywir
  • Cadwch becynnu offer ar gyfer unrhyw storfa yn y dyfodol. Os yw offer yn cael ei storio sicrhewch nad yw mewn amodau llaith neu rhy boeth
  • Dylai unrhyw offer gosod sefydlog parhaol nad oes angen socedi, a gosod socedi gael ei wneud a'i gynnal wedi hynny gan drydanwr cymwys.

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch trydanol ar gael ar wefan HSE.
 
Am HSE
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw rheolydd cenedlaethol Prydain ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle. Rydym yn atal marwolaethau, anafiadau ac afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith trwy gamau rheoleiddio sy'n amrywio o ddylanwadu ar ymddygiadau ar draws sectorau diwydiant cyfan i ymyriadau wedi'u targedu ar fusnesau unigol. Cefnogir y gweithgareddau hyn gan arbenigedd gwyddonol a gydnabyddir yn fyd-eang.