Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gweithdrefnau Glanhau a Diheintio Dyfnach ar gyfer Halogiad Firws

Mae'r perygl o gael eich heintio gan COVID-19 yn dilyn halogi'r amgylchedd yn lleihau dros amser.  Mae'r dystiolaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn awgrymu bod y risg heintio yn gostwng yn sylweddol ar ôl 72 awr.

GLANHAU Dyfnach: Argymhellion cyffredinol ar gyfer rheoli risg o heintio

  • Cleaning disinfectionGweithredwch bob amser y "camau glanhau a diheintio"; "amddiffyn eich hun rhag haint" a nodir isod yn ystod cyfnod argyfwng COVID-19.
  • Cynyddwch pa mor aml y glanheir mannau/cyfleusterau cymunedol ac mewn mannau cyswllt uchel megis: toiledau; tapiau; handlenni drysau; rheiliau llaw; grisiau; ffonau, teclynnau rheoli setiau teledu; botymau galw mewn lifftiau.
  • Sicrhewch fod cyfleusterau golchi dwylo yn cael eu cynnal a’u cadw, gyda chyflenwad digonol o sebon hylif/ewyn a bod dull hylan o sychu dwylo yn cael ei ddarparu (h.y. tyweli papur tafladwy).
  • Sicrhewch fod clytiau tafladwy, neu dywel papur, a phennau mop tafladwy yn cael eu defnyddio i lanhau.   Os nad ydynt yn rhai i’w defnyddio unwaith yn unig, rhaid eu newid yn rheolaidd.
  • Ar gyfer offer glanhau nad yw'n ddefnydd untro ac yn dafladwy (h.y. bwcedi), sicrhewch eu bod yn cael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr ar ôl eu defnyddio.  Ni fydd gwaith glanhau’n cael ei gyflawni’n effeithiol os oes offer budr yn cael eu defnyddio.

GLANHAU DYFNACH (gynted ag y bydd person â symptomau yn gadael y lleoliad neu ardal)

PARATOADAU CYCHWYNNOL

  • Nodwch bob ardal yr aeth y person â symptomau iddi.
  • Sicrhewch fod yr holl offer a chynnyrch sydd eu hangen ar gael yn rhwydd ac yn briodol i'w defnyddio (h.y. offer glanhau, CDP priodol, cemegau a phecynnau glanhau ar ôl gollyngiadau).  Dylid nodi hyn drwy eich asesiad risg o'r lleoliad cyn i’r glanhau a'r diheintio ddigwydd.
  • Tybiwch bob amser bod pob halogiad hylif corff yn heintus.

DIOGELWCH EICH HUN RHAG HAINT

Fel lleiafswm, gwisgwch fenig tafladwy a ffedog i wneud gwaith glanhau.

Ar gyfer ardaloedd a halogwyd yn amlwg â hylifau'r corff, neu lle y gallai lefel uwch o firws fod yn bresennol (fel ystafell wely mewn gwesty lle mae person â symptomau wedi cysgu), efallai y bydd angen CDP ychwanegol i amddiffyn y llygaid, y trwyn a'r geg.  

Dylid cyfeirio at ganllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch gofynion CDP, neu gysylltu â'r Tîm Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael arweiniad

  • 0300 003 0032

 

YMDRIN Â HALOGIAD HYLIF Y CORFF 

  • Ar gyfer halogiad chŵyd a dolur rhydd, defnyddiwch ronynnau sydd wedi'u darparu â phecyn gollyngiadau i amsugno'r halogiad (dilynwch y cyfarwyddiadau).
  • Rhowch y gronynnau ac unrhyw sylwedd soled yn uniongyrchol i mewn i fag gwastraff - efallai bydd  sgŵp/sgrafell wedi'u darparu gyda'r pecyn gollyngiadau.
  • Peidiwch ag ysgwyd dillad budr neu ddillad gwely sydd wedi bod mewn cysylltiad â pherson sâl, er mwyn atal y posibilrwydd o wasgaru'r feirws drwy'r aer.
  • Dylai unrhyw beth a ddefnyddir i gludo dillad golchi gael ei lanhau a'i ddiheintio wedyn.
  • Gellir golchi dillad budr sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy'n sâl yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y label. 

GWEITHDREFN GLANHAU A DIHEINTIO

  • Glanhewch y lleoliad heintiedig gyda glanedydd a dŵr poeth, gan ddefnyddio clwtyn tafladwy.  Ar gyfer ardaloedd lle mae halogiad mawr eisoes wedi'i dynnu oddi yno, sicrhewch fod ardal 2 fetr o amgylch yr ardal halogedig hefyd yn cael ei glanhau a'i diheintio.
  • Osgowch sblasio a sgeintio wrth lanhau.
  • Ar gyfer eitemau na ellir eu golchi neu eu glanhau gyda chynhyrchion cemegol (h.y. dodrefn wedi'u clustogi a matresi), dylid glanhau gyda stêm.
  • Diheintiwch pob ardal/eitem sydd wedi eu halogi neu sydd o bosibl wedi eu halogi, gydag thoddiant wedi'i wneud yn ffres at y diben o 1,000 o rannau fesul miliwn (ppm) (0.1%) cynnyrch clorin sydd ar gael a gadewch mewn cyswllt â’r ardal am yr hyd a nodir ar gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr. Bydd cynhyrchion o'r fath yn cynnwys: cannydd; Milton; Actichlor; Titan
  • Os defnyddir diheintydd gwahanol yn y sefydliad (e.e. cyfansoddion amoniwm cwaternaidd), gwiriwch eu bod yn effeithiol yn erbyn firysau wedi'u hamgáu.
  • Gwaredwch bob deunydd yn y lleoliad heintiedig na ellir ei lanhau na’i ddiheintio’n ddigonol.
  • Gwnewch weithgareddau glanhau mewn modd trefnus fel nad yw arwynebau sydd wedi'u glanhau eisoes yn cael eu hail-halogi.
  • Rhowch pob CDP a ddefnyddiwyd mewn dau fag, a’u selio; ynghyd ag offer glanhau tafladwy ac eitemau halogedig.  Storiwch y gwastraff yn ddiogel am 72 awr cyn ei roi yn eich ffrwd wastraff arferol.
  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr gan ddefnyddio sebon hylif a dŵr cynnes am o leiaf 20 eiliad ar ôl i CDP gael ei dynnu, a sychwch eich dwylo’n drylwyr (gyda thywel papur sy'n cael ei daflu i ffwrdd ar unwaith yn ddelfrydol).

 

 

Manylion cyswllt
  • 0300 123 6696

 

  • communicabledisease@cardiff.gov.uk


I gael rhagor o wybodaeth am ddadheintio COVID-19 cliciwch ar y dolenni isod: