Rhentu Doeth Cymru
Mae Rhentu Doeth Cymru'n gynllun newydd a fydd yn gwella safonau yn y sector rhentu preifat trwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau rheolaethol i gynnal hyfforddiant i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau.
Bydd hyn yn helpu:
- Rhwystro landlordiaid ac asiantau twyllodrus, a hyd yn oed troseddol, rhag bod yn rhan o reoli a rhentu tai.
- Amddiffyn tenantiaid ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da trwy eu helpu i fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan godi enw da'r sector.
Lansiwyd gwaith i orfodi’r Ddeddf ar 23 Tachwedd 2016, ac anogir y rheiny sydd heb gydymffurfio â'r gyfraith eto i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i gofrestru cyn gynted â phosibl oherwydd bod y broses gofrestru ar-lein yn syml ac ond yn cymryd 15 munud, ond gall cais trwyddedu gymryd hyd at wyth wythnos i’w brosesu.
Rhentu Doeth Cymru
Gallwch hefyd weld ein fideo Rhent Smart Wales byr i gael mwy o wybodaeth am y cynllun: