Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Landlordiaid

Os ydych chi’n gosod eich eiddo at ddibenion domestig, mae gennych amryw o gyfrifoldebau

Houses-Roofs

 Ymhlith cyfrifoldebau landlord, mae:

  • Cadw eich holl eiddo ar rent yn ddiogel ac yn rhydd rhag peryglon i iechyd
  • Sicrhau bod cyfarpar nwy a thrydan rydych yn eu cyfleu yn cael eu gosod yn ddiogel a’u cynnal a’u cadw mewn modd cyfrifol
  • Cydymffurfio â rheolau diogelwch tân
  • Darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo
  • Gwarchod blaendal eich tenantiaid mewn cynllun wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth
  • Sicrhau bod trwydded HMO gan yr eiddo, os yn berthnasol
  • Sicrhau eich bod chi (neu’ch asiant) wedi eich cofrestru ac yn drwyddedig i weithredu fel landlord. Bydd y cynllun cofrestru a thrwyddedu’n cael ei gyflenwi gan sefydliad Rhentu Doeth Cymru.

Am wybodaeth bellach ar y Cynllun Gwarchod Blaendal, Cytundebau Tenantiaid, Troi Tenantiaid Allan, Tystysgrifau Perfformiad Ynni a Chanllaw i Rentu’ch Eiddo, ewch i wefan Gov.uk.

Ffurflenni ac Arweiniad