Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Alergenau
Yn 2010, nododd Mintel fod gan dros 44% o boblogaeth oedolion y DU un neu fwy o alergeddau, rhai ohonynt yn alergeddau bwyd.
Mae'n bwysicach nag erioed sicrhau bod busnesau bwyd yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol i'w cwsmeriaid a'u cyfrifoldebau o ran darparu gwybodaeth am alergenau.
Gall torri'r gyfraith ar alergenau arwain at ganlyniadau difrifol i fusnesau a'u cwsmeriaid.
Er mwyn cefnogi busnesau i ddeall eu rhwymedigaethau, rydym yn cynnig dau gwrs hyfforddi:
- Cwrs hanner diwrnod Lefel Dau
Gwobr Lefel 2 Highfield mewn Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF)
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at drinwyr bwyd a staff eraill sy'n ymwneud â pharatoi a gwasanaethu bwyd sy'n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu sy'n dymuno gwneud hynny.
Amcan y cymhwyster yw cefnogi rôl yn y gweithle. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth o alergenau bwyd a bwydydd sy'n achosi anoddefiadau, eu nodweddion a'u heffeithiau yn aml, pwysigrwydd cyfleu gwybodaeth am gynhwysion alergenig i gwsmeriaid yn effeithiol, a sut y gall staff leihau'r risg o groeshalogi o gynhwysion alergenig.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi gyflawni'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hanner diwrnod yn yr ystafell ddosbarth.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gyflawni'r cymhwyster hwn?
Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymhellir bod gan ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu'ch lle.
Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?
Asesir y cymhwyster hwn gan bapur arholiad amlddewis 15 cwestiwn ar ddiwedd cwrs. Y marc pasio ar gyfer y papur yw 9 allan o 15 cwestiwn yn gywir (60%).
Beth nesaf?
Efallai y bydd unigolion sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd ac alergenau, megis Gwobr Lefel 3 Highfield mewn Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF), Gwobr Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (RQF). Gweler y tudalennau hyfforddi ar ein gwefan i gael manylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill a gynigiwn.
Ble gellir dilyn y cwrs hwn?
Rydym yn cyflwyno'r cwrs hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg ac ar-lein. Gweler ein gwefan am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein lleoliadau hyfforddi a dyddiadau ein cyrsiau.
Cost?
Cost y cwrs hanner diwrnod hwn yw £48
Dyddiadau ein cyrsiau
- Bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Darllenwch y wybodaeth ar ein prif dudalen hyfforddi cyn archebu ar un o'n cyrsiau ar-lein.
NODWCH: Rydym yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch ein staff a'r cyhoedd, felly gall y dyddiadau hyn fod yn destun newid oherwydd canllawiau swyddogol a gyhoeddwyd yn ymwneud â'r Coronafeirws - Covid 19. Peidiwch â gwneud unrhyw drefniadau teithio na llety i fynychu ein cyrsiau nes bod y cwrs wedi'i gadarnhau fel un sy'n mynd yn ei flaen, gan eu bod yn destun newid ar hyn o bryd.
Sut ydw i'n archebu fy lle?
Gallwch naill ai lawrlwytho ffurflen archebu'r cwrs o'n gwefan neu anfon e-bost atom i gael copi o'r ffurflen archebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.
-
training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk