Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

HACCP

Gwobr Lefel 2 Highfield yn HACCP am Arlwyo (RQF)

ShellfishMae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at y rhai sy'n gweithio mewn amgylchedd arlwyo bwyd a thrinwyr bwyd eraill. ac fe'i bwriedir ar gyfer ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio ym maes arlwyo a'r rhai sy'n paratoi i weithio yn y diwydiant.

Amcan y cymhwyster yw darparu cyflwyniad i HACCP, a hefyd cefnogi'r rhai sydd, neu a fydd yn rhan o dîm HACCP (dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol) mewn amgylchedd arlwyo.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi gyflawni'r cymhwyster hwn?

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs diwrnod llawn yn yr ystafell ddosbarth.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gyflawni'r cymhwyster hwn?

Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymhellir bod gan ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu'ch lle.

Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?

Asesir y cymhwyster hwn gan arholiad amlddewis 15 munud, 15 cwestiwn, lle mae'n rhaid i'r dysgwr ateb o leiaf 9 allan o 15 cwestiwn yn gywir i'w basio.

Beth nesaf?

Efallai y bydd unigolion sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig â diogelwch bwyd ac alergenau, megis Gwobr Lefel 3 Highfield yn HACCP am Arlwyo (RQF) neu Wobr Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (RQF). Gweler y tudalennau hyfforddi ar ein gwefan (www.srs.wales) i gael manylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill a gynigiwn.

Ble gellir dilyn y cwrs hwn?

Rydym yn cyflwyno'r cwrs hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Dyffryn Morgannwg. Gweler ein gwefan am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein lleoliadau hyfforddi a dyddiadau ein cyrsiau.

Cost?

Cost y cwrs diwrnod llawn hwn yw £75.

Dyddiadau'r cyrsiau

Bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gadarnhau yn fuan.

Sut mae archebu fy lle?

Gallwch naill ai lawrlwytho ffurflen archebu'r cwrs o'n gwefan neu anfon e-bost atom i gael copi o'r ffurflen archebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.

 

  • 02920 871120

 

  • training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk

 

  • Hyfforddiant Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Ystafell 108, Neuadd y Sir, Atlantic Wharf, Caerdydd, CF10 4UW