Cyrsiau Hyfforddiant
Os ydych chi'n rhedeg, neu'n bwriadu rhedeg busnes bwyd, mae'n hanfodol bod gennych wybodaeth dda o hylendid a diogelwch bwyd.
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod unrhyw drinwr bwyd yn eich busnes wedi'i hyfforddi sy'n gymesur â'u dyletswyddau. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid iddynt gael tystysgrif diogelwch bwyd, ond bydd angen i chi ddangos eu bod wedi'u hyfforddi'n briodol.
Argymhellir y dylai'r person sy'n gyfrifol am y busnes a / neu'r goruchwylwyr gael eu hyfforddi i lefel uwch na'r rhai y maent yn eu goruchwylio. Efallai yr hoffech ystyried ymgymryd â hyfforddiant pellach os oes gennych yr hyfforddiant hylendid bwyd lefel dau ar hyn o bryd.
Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod mwy am y cyrsiau hyfforddi rydyn ni'n eu darparu:
Rydym yn darparu hyfforddiant achrededig Highfield ar Lefelau 2 a 3
Cyflwyniad i egwyddorion HACCP (dadansoddi peryglon a phwyntiau rheoli critigol), a all helpu i gefnogi'r rhai sy'n rhan o dîm HACCP mewn amgylchedd arlwyo.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at drinwyr bwyd a staff eraill sy'n ymwneud â pharatoi a gwasanaethu bwyd sy'n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu sy'n dymuno gwneud hynny.
Rydym yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar weithwyr i sicrhau amgylchedd gwaith diogel o fewn sefydliad.