Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gorchymyn i gyfarwyddwr a chwmni talu a chario yng Nghaerdydd dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd

Mae cyn-gyfarwyddwr busnes cyfanwerthu talu a chario mawr ar Heol Bessemer yng Nghaer20220127_113059dydd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £2,517 yn sgil pla llygod mawr yn ei safle yn ogystal â methu sicrhau'r gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi i gyflenwi bwydydd 'sy'n dod o anifeiliaid' gan gynnwys cynnyrch cig i'w fwyta gan bobl sydd ymhellach na radiws o 30 milltir.

Ebrill 20fed, 2023

Mae LS Wholesale Ltd, sydd wedi'i leoli yn Uned 16d yr Wholesales Fruit Centre yn Heol Bessemer, Caerdydd, yn fusnes cyfanwerthu sy'n cyflenwi sbeisys, llysiau, cig, pysgod a bwydydd eraill sy'n 'dod o anifeiliaid' i siopau a bwytai cyfagos.
 
Rhwng 6 Rhagfyr 2021, ac 20 Medi 2022, ymwelodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar ran Cyngor Caerdydd â'r busnes ar sawl achlysur a chanfod pla eang o lygod mawr a throseddau hylendid bwyd eraill, gan gynnwys:
 
Baw llygod mawr helaeth lle roedd bagiau sbeisys yn cael eu storioGwelwyd llygod mawr byw o dan y paledi storio bwydRoedd tyllau yn strwythur yr adeilad a oedd yn caniatáu i gnofilod fynd i'r safleRoedd cig dafad cymysg yn cael ei werthu, heb y gwaith papur cywir i ddangos o le daeth y cig; aRoedd cig yn cael ei gludo i Loegr ymhellach na 30 milltir o'r fan lle lleolir y busnes ac nid oedd y gymeradwyaeth angenrheidiol gan yr awdurdod awdurdodi ganddo. 
Plediodd Shah Mohammed Islam, 46, o Beauchamp Street, Caerdydd, yn euog i bedair trosedd a dedfrydwyd ef yn ddiweddarach yn Llys Ynadon Caerdydd ar 13 Ebrill 2023. Ar adeg y troseddau Mr Islam oedd unig Gyfarwyddwr LS Wholesale Ltd ac felly ganddo ef oedd y cyfrifoldeb cyffredinol am y busnes. Gorchmynnwyd i LS Wholesale Ltd hefyd dalu cyfanswm o £8,852.
 
20211207_130638Yn ei amddiffyniad, honnodd Mr Islam ei fod wedi cydweithredu â'r awdurdodau gydol yr ymchwiliad a bod safonau wedi gwella yn ei fusnes, gyda gwell glendid a drws cau newydd wedi'i osod i atal y cnofilod rhag mynd i'r adeilad.

Honnodd fod eu cwmni rheoli plâu wedi gwneud popeth allen nhw ei wneud i ddelio â'r pla llygod mawr, ac nad oedden nhw'n diystyru'r gyfraith yn ddigywilydd.

Cadarnhaodd Mr Islam hefyd fod y cig dan sylw wedi'i ddinistrio ac nad oedd wedi ei werthu i'w cwsmeriaid ond derbyniodd fod ‘diffyg crebwyll' clir wedi bod wrth gludo cig i'w fwyta gan bobl heb y drwydded ofynnol.
 

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:

"Er i'r diffynyddion ddangos cydweithrediad â'r Cyngor, a bod safonau ar y safle wedi gwella yn sgil ymyriadau swyddogion, roedd y dystiolaeth yn dangos methiant i gydymffurfio a Rheoliadau Hylendid Bwyd. Fel y gwnaeth y Barnwr Rhanbarth hi'n glir yn y llys, mae'r troseddau hyn yn ddifrifol, gan fod Mr Islam yn rhedeg busnes mawr a oedd yn cyflenwi llawer o bobl, felly dylid fod wedi rhoi pwys ar ddilyn deddfau diogelwch bwyd bob amser. Dylai'r ddedfryd hon anfon neges glir i fusnesau bwyd eraill, boed yn fusnesau cyfanwerthu neu fwytai, ein bod yn cymryd y materion hyn o ddifri a byddwn yn gweithredu ar wybodaeth a ddaw i law a chymryd y camau priodol."

Cafodd LS Wholesale Ltd ddirwy o £7,335, gorchymyn i dalu costau o £1,327 gyda gordal dioddefwr o £190.

Cafodd Mr Shah Mohammed Islam ddirwy o £1,000, gorchymyn i dalu costau o £1,327 gyda gordal dioddefwr o £190.