Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Hyfforddiant Rheoli Heintiau 

Mae trosglwyddo clefydau heintus yn y blynyddoedd cynnar a darpariaethau gofal yr henoed yn fygythiad cyson. Dylai rheoli heintiau a hylendid sylfaenol fod wrth wraidd rheolaeth dda er mwyn sicrhau bod y grwpiau mwyaf agored i niwed mewn amgylchedd gofal yn cael eu gwarchod.

Nod ein cyrsiau yw darparu dealltwriaeth o'r canllawiau rheoli heintiau cyfredol i reoli salwch gastroberfeddol yn y gweithle yn effeithiol a grymuso staff i leihau risgiau achos yn hyderus.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi gyflawni'r cymhwyster hwn?

Infection Control

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi 2 awr yn yr ystafell ddosbarth.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gyflawni'r cymhwyster hwn? 

Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymhellir bod gan ddysgwyr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu'ch lle.

Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?

Rhoddir tystysgrif presenoldeb i bob ymgeisydd ar ôl cwblhau'r cwrs

Beth nesaf?

Efallai y bydd unigolion sy'n cyflawni'r dystysgrif hon am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch, megis Gwobr Lefel 2 Highfield mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (RQF). Gweler y tudalennau hyfforddi ar ein gwefan i gael manylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill a gynigiwn.

Ble gellir dilyn y cwrs hwn?

Gellir cyflwyno'r cwrs hwn i fusnesau yn eich gweithle ar gyfer grwpiau o 5 neu fwy.

Y gost?

Pris ar Gais. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion - bydd y gost y pen yn dibynnu ar nifer y cynrychiolwyr sy'n mynychu (po fwyaf sy'n bresennol, y rhatach yw'r cwrs y pen)

Dyddiadau'r cyrsiau

Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu cwrs hyfforddi yn eich gweithle.

Sut mae archebu fy lle?

 

Gallwch naill ai lawrlwytho ffurflen archebu'r cwrs o'n gwefan neu anfon e-bost atom i gael copi o'r ffurflen archebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.