Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dau landlord wedi cael dirwy o £23,000

Mae rhentu eiddo peryglus allan yng Nghaerdydd wedi costio miloedd oHouses Cardiff 2 bunnoedd i ddau landlord

Chwefror 15ed, 2024

Ar ddydd Gwener 9fed Chwefror, cafodd Rowshanara Begum, o Clive Street, Grangetown, ddirwy o £20,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am fethu â chydymffurfio â phum Rhybudd Gwella am waith i dŷ y mae'n ei rentu allan yn Blaenclydach Street yn Grangetown.

Y diwrnod cynt, ddydd Iau 8 Chwefror, cafodd Lawford Cunningham, o Edgbaston, Birmingham, ddirwy o £3,000 am fethu â chydymffurfio â deddfwriaeth yn ymwneud â thrwyddedu a rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth y mae'n berchen arno yn Ferry Road, Grangetown.

19 Blaenclydach Street, Grangetown, Caerdydd

Daeth yr achos hwn i'r amlwg pan gwynodd tenant sy'n byw yn yr eiddo Fictoraidd deulawr, sydd wedi ei drosi'n bedair fflat hunangynhwysol, wrth y cyngor nad oedd yr eiddo i'r safonau gofynnol.

Yn dilyn arolygiad, cafodd swyddogion tai sioc o ddarganfod diffygion sylweddol yr ystyriwyd eu bod yn berygl i denantiaid sy'n byw yn yr eiddo, gan gynnwys:

  • Dim larwm tân a drysau tân diffygiol
  • Dim llwybr dianc i'r ystafelloedd mewnol yn yr adeilad
  • Ceginau anniogel, carpedi budr, a llaith treiddiol
  • Mesuryddion trydan heb eu diogelu, gosodiadau trydanol anniogel, a ffenestri anniogel.

Daethpwyd â'r achos gerbron y llys gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 1 Rhagfyr 2022, lle cafodd Begum ddirwy o £10,000, a'i orchymyn i dalu costau a thaliadau o £2,190. Gwnaed yn glir i Begum bod yn rhaid cwblhau'r gwaith gwella a nodwyd trwy'r archwiliad erbyn mis Mawrth 2022, ond ni chafodd y rhain eu gwneud.

Rhoddwyd gwŷs pellach i Begum i fynd i Lys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, a rhoddwyd dirwy arall o £20,000, ynghyd â thâl o £1,000 mewn costau a gordal ychwanegol o £2,000.

43 Ferry Road, Grangetown, Caerdydd

Daeth yr achos hwn i'r amlwg hefyd pan gwynodd tenant oedd yn byw mewn fflat hunangynhwysol yn yr eiddo wrth y cyngor fod y llety yn torri'r safonau fel Tŷ Amlfeddiannaeth.

Ymwelodd Arolygydd Tai â'r eiddo Fictoraidd pedwar llawr, sydd wedi'i drawsnewid yn bedair fflat, i asesu a oedd y landlord yn gosod yr eiddo yn groes i'r rheoliadau. Unwaith eto, daeth yr arolygydd o hyd i gatalog o fethiannau, gan gynnwys:

  • Larwm tân diffygiol, drysau tân anghyflawn a thrydan peryglus drwy'r fflatiau
  • Diffyg amddiffyniad rhag tân ar gyfer y mesuryddion trydanol a diffyg gwres digonol
  • Llwybr dianc cymunedol wedi ei gynnal a'i gadw'n wael a gwastraff oedd wedi cronni yn yr iardiau blaen a chefn
  • Wynebau gweithio wedi'u difrodi yn y gegin a gorchuddion llawr diffygiol ac wedi'u difrodi.

Daethpwyd â'r achos i'r llys ar 16 Tachwedd 2023, lle plediodd Cunningham yn euog i 24 o droseddau. Cafodd yr achos ei ohirio, wrth i gais gael ei wneud am gofnodion ariannol ar gyfer eiddo eraill yn ardal Caerdydd yr oedd Cunningham yn berchen arnynt ac yn eu rhentu allan.

Ar ôl i Cunningham fethu â darparu'r cyfrifon ariannol y gofynnwyd amdanynt, rhestrwyd yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd eto ar 4 Ionawr, ond gohiriwyd yr achos tan ddydd Iau diwethaf (8 Chwefror) pan gafodd Cunningham ddirwy o £3,000, a'i orchymyn i dalu £367.80 mewn costau, gyda gordal dioddefwr o £2,000.

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid sector preifat yn cynnig gwasanaeth da iawn i'w preswylwyr, ond yn anffodus mae yna leiafrif sydd ddim yn gwneud hynny.

"Pan fyddwn yn mynd â'r materion hyn i'r llys, rydym yn gwneud hyn er budd y preswylwyr sy'n byw yn yr eiddo hyn, fel bod y diffygion a nodwyd yn cael eu trwsio a bod yr eiddo'n ddiogel i fyw ynddynt. Fel y dengys un o'r achosion hyn, rydym yn gwneud y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau, ac os nad yw hynny wedi digwydd, byddwn yn ceisio erlyn y landlord eto."