Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Perchennog trwyddedig yn cael ei erlyn yn dilyn gwerthiant alcohol dan oed

Mae gweithredwr siop drwyddedig yn Y Barri wedi cael dirwy o fwy na £2,500 am werthu alcohol dan oed a throseddau trwyddedu yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg.

10 Ionawr 2023

Daeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy’n cyflawni safonau masnach a swyddogaethau eraill ar gyfer ardaloedd awdurdodauALCOHOL 1 lleol Caerdydd Pen-y-bont ar Ogwr a’r Fro, ag achos yn erbyn Chiragkumar Patel.

Ym mis Rhagfyr 2021 roedd yn rhedeg Shreeji Stores ar Coldbrook Road East yn y dref pan, mewn ymateb i gwynion rhieni, ymwelodd Swyddog Safonau Masnach gyda gwirfoddolwyr 15 ac 16 oed.

Aeth y gwirfoddolwyr at y cownter, lle'r oedd Patel yn gweithio, a cheisio prynu bocs o seidr ffrwythau am £12.99.Gofynnodd Patel faint oedd oed un o’r gwirfoddolwyr ac, ar ôl cael gwybod yn 15 oed, eglurodd fod yn rhaid i berson fod yn 18 oed o leiaf i brynu alcohol. Yna cododd £1.01 ychwanegol arno am y caniau, a gafodd eu tynnu o’u bocs, eu rhoi mewn bagiau du a’u trosglwyddo y tu allan i’r siop, lle roedd Patel wedi dweud wrth y gwirfoddolwr am aros.

Daeth hyn dri mis ar ôl i bryderon gael eu codi gyntaf ac roedd Patel wedi derbyn arweiniad llafar ac ysgrifenedig ar werthu alcohol. Roedd wedi honni mai ef oedd y Goruchwylydd Safle Dynodedig (DPS) ar gyfer y siop, rôl sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, ond trodd hyn allan i fod yn ffug yn ddiweddarach.

Yn ystod cyfweliadau ac ymchwiliadau pellach, daeth i’r amlwg hefyd fod Patel wedi cyflwyno gwybodaeth ffug i adran drwyddedu Cyngor Bro Morgannwg.

Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, cafodd ddirwy o £640 am werthu alcohol i berson dan 18 oed, £640 am beidio â chael DPS a £640 am gyflenwi gwybodaeth ffug.

Gorchmynnwyd Patel hefyd i dalu costau o £500 ac roedd gordal dioddefwr o £190 yn gwneud y cyfanswm taladwy yn £2,610

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnam, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ymgysylltiad Cymunedol, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol: “Mae rheolau ynghylch gwerthu alcohol yn eu lle am reswm – i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed.

“Roedd Patel yn gwybod y gyfraith ond dewisodd ei anwybyddu’n fwriadol trwy ganiatáu i bobl yr oedd yn eu hadnabod a oedd o dan oed brynu alcohol o’i siop.

“Roedd hefyd yn fwriadol yn gweithredu heb Oruchwyliwr Safle Dynodedig a chyflwynodd ddogfennaeth y gwyddai ei bod yn ffug i adran drwyddedu’r Cyngor.

“Hoffwn ddiolch i Swyddogion Safonau Masnach am y gwaith diwyd sydd wedi arwain at yr erlyniad hwn. Dylai’r achos hwn anfon neges at eraill sy’n torri’r gyfraith yn y modd hwn na fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei oddef.”