Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Mae Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) wedi’i gadarnhau mewn nifer o leoliadau yng Nghymru 

Mae rhai o’r lleoliadau hyn yn debygol o arwain at adar marw a/neu sâl yn caelGull in water eu golchi i’r lan ar draethau a ddefnyddir gan y cyhoedd

Mae rhai o’r lleoliadau hyn yn debygol o arwain at adar marw a/neu sâl yn cael eu golchi i’r lan ar draethau a ddefnyddir gan y cyhoedd

Y negeseuon allweddol:

  • Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu sâl y byddwch chi'n dod o hyd iddyn nhw.
  • Cadwch eich cŵn ar dennyn ac i ffwrdd oddi wrth unrhyw adar gwyllt marw neu sâl.
  • Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod amdanynt gan ddefnyddio'r system ar-lein neu i linell gymorth Defra: 03459 33 55 77
  • Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu wedi’u hanafu, cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.