Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ffliw Adar wedi'i ganfod mewn eiddo ar Ynys Môn

Mae’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wediPoultry hens datgan Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan o 17 Hydref 2022 ar ôl darganfod bod yna Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N1 mewn dofednod ar safle ar Ynys Môn.

18 Hydref 2022

Cyhoeddwyd Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan (AIPZ) ddydd Llun 17 Hydref, am 12:00. Mae Lloegr a'r Alban hefyd wedi datgan Parthau Atal Ffliw Adar cenedlaethol cyfatebol. Mae datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi.

Mae’r AIPZ yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch gwell gorfodol ledled Cymru ar gyfer pob ceidwad adar, er mwyn amddiffyn eu hadar a’r ddiadell genedlaethol.

Rhaid i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y cedwir yr adar hynny, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Lleihau mynediad dofednod ac adar caeth eraill i ardaloedd yr ymwelir â nhw'n aml ac sydd wedi'u halogi gan adar dŵr gwyllt;
  • Sicrhau bod yr ardaloedd lle cedwir adar yn anneniadol i adar gwyllt, er enghraifft trwy rwydo pyllau, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt;
  • Cymryd camau i fwydo a dyfrio adar mewn mannau caeedig a sicrhau nad yw porthiant, dŵr a gwasarn yn agored i halogiad firws, yn enwedig trwy faw adar, a'u bod yn cael eu storio mewn modd nad yw'n hygyrch i adar gwyllt;
  • Lleihau symudiadau pobl i mewn ac allan o gaeau adar;Glanhau a diheintio esgidiau gyda dipiau traed, a sicrhau bod rhagofalon i osgoi trosglwyddo halogiad firws yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i mewn i fangreoedd a rhyngddynt, o unrhyw beth sy'n debygol o ledaenu haint megis dillad;
  • Cadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;Lleihau unrhyw halogiad presennol trwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a ffensio mannau gwlyb neu gorsiog.Mae hefyd yn ofynnol i geidwaid â mwy na 500 o adar gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu mynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol i'r safle.

Bydd y Parth Atal yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y mesurau y mae’n eu gosod yn parhau’n briodol i lefel y risg a wynebwn. Nid oes gorchymyn cartrefu gorfodol yn ei le ar hyn o bryd, fodd bynnag, efallai y bydd ceidwaid am ystyried rhoi llety i’w hadar mewn ymgynghoriad â’u milfeddyg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd canllawiau bioddiogelwch wedi’u diweddaru a rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch yn cael eu cyhoeddi’n fuan, y dylai ceidwaid adar eu dilyn i helpu i gadw eu hadar yn rhydd o’r clefyd.