Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ymgynghoriad ar ddatganiad pellach o Gynllun Trwyddedu Ychwanegol Cathays yn cychwyn

Rydym yn gwahodd sylwadau ar y cynnig hwn gan denantiaid, preswylwyr, landlordiaid, asiantau, busnesau lleol a phartïon eraill â diddordeb. 

Chwefror 14eg, 2022

Mae'r ddogfen Ymgynghori Cyhoeddus a'r holiaduron cysylltiedig i'w gweld yma. Mae'n dod i ben ar 22 Mawrth 2022. Mae CyngorPublic Consultation Caerdydd yn awyddus i sicrhau bod holl denantiaid y ddinas yn byw mewn eiddo sy'n sych, yn ddiogel, yn gynnes ac wedi'i reoli'n dda.

O fewn y sector rhentu preifat, mae gan y Cyngor bwerau i sicrhau bod tai a rennir yn bodloni safonau penodol a gall orfodi landlordiaid / asiantiaid i gydymffurfio â gofynion penodol. Gall y Cyngor drwyddedu rhai mathau o eiddo mwy a rennir (a elwir yn HMOs (Tai Amlfeddiannaeth)) ac mae wedi defnyddio ei bwerau i ymestyn hyn i anheddau llai a rennir yn ward Cathays yng Nghaerdydd o dan Gynllun Trwyddedu Ychwanegol.

Mae'r Cynllun yn rhedeg am gyfnod o 5 mlynedd, ac wedi hynny mae'n rhaid i'r Cyngor ailddatgan yr ardal fel ardal Trwyddedu Ychwanegol. Daeth y Cynllun presennol i ben ddiwedd 2020 ac mae'r Cyngor nawr yn ystyried a ddylid ail-ddatgan yr ardal am 5 mlynedd arall. Wrth wneud hynny, mae'r Cyngor yn ceisio barn amrywiaeth o bobl. Wrth wneud hynny, mae'r Cyngor yn ceisio barn amrywiaeth o bobl.