Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Mae Dogs Choice UK wedi adalw nifer o fwydydd cŵn amrwd wedi rhewi 

Mae Salmonela wedi'i ddarganfod yn y bwydydd cŵn, ac felly mae’r cynhyrchion yr effeithir arnynt yn cael eu hadalw

23 Chwefror 2022

Mae Dogs Choice UK yn adalw’r cynhyrchion isod:

 Enw’r Cynnyrch Maint Pecyn Dyddiad ‘Gorau Cyn’  Codau Swp
 Frozen Chicken and Beef  500g  08 Awst 2022  080222+2
 Frozen Chicken and Beef Ready Meal  500g  08 Awst 2022  080222+2
 Frozen Chicken Liver  500g  08 Awst 2022  080222+2

Mae Salmonela yn facteriwm sy'n gallu achosi salwch mewn pobl ac anifeiliaid. Felly, gallai'r cynnyrch gario risg bosibl, naill ai drwy drin y bwyd anifeiliaid yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyffwrdd â phowlenni anifeiliaid anwes, offer neu ysgarthion yr anifeiliaid. 

Mewn pobl, mae symptomau a achosir gan Salmonela fel arfer yn cynnwys twymyn, dolur rhydd a chrampiau abdomenol. 
Efallai na fydd anifeiliaid wedi’u heintio yn dangos arwyddion o salwch, ond gall symptomau gynnwys dolur rhydd. 

Os ydych wedi prynu unrhyw un o'r cynhyrchion yr effeithir arnynt, peidiwch â'u defnyddio.  Yn hytrach, dychwelwch nhw i'r siop lle gwnaethoch brynu'r cynhyrchion am ad-daliad llawn.  Bydd hysbysiadau pwynt gwerthu hefyd yn cael eu harddangos yn y siopau manwerthu a werthodd y cynhyrchion hyn. 

Wrth drin a gweini bwyd anifeiliaid amrwd, dylech bob amser lanhau offer a phowlenni bwydo’n drylwyr ar ôl eu defnyddio. Dylai perchnogion anifeiliaid anwes hefyd olchi eu dwylo'n dda ar ôl trin bwyd anifeiliaid amrwd, powlenni, offer neu ar ôl dod i gysylltiad ag ysgarthion anifeiliaid. 

Dylid storio bwyd anifeiliaid amrwd ar wahân i unrhyw fwyd arall (yn enwedig bwydydd sy’n barod i'w bwyta) a dylid cymryd gofal wrth ddadmer y bwydydd wedi rhewi er mwyn osgoi croeshalogi.

Dylid cyfeirio ymholiadau am adalw cynnyrch at:

Ffôn: 029 2067 8961 

Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW 
Food Standards Agency, 11th Floor Southgate House, Wood St, Cardiff CF10 1EW