Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gwybodaeth lles anifeiliaid ynghylch reidiau mulod ar Draeth Coney 

Tra bod y reidiau asynnod tymhorol ar waith yn Coney Beach, maeDonkey in field swyddogion o’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn cynnal gwiriadau lles i sicrhau bod y gweithredwr yn gweithio o fewn amodau ei drwydded yn unol â’r Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Mae’r reidiau mulod yn parhau i fod yn drefniant preifat rhwng y gweithredwr a pherchnogion y ffair hwyl, sydd hefyd yn cynnal ac yn rheoli Coney Beach, a bydd swyddogion yn parhau i fonitro lles yr anifeiliaid. Gall unrhyw un sy’n pryderu am les anifail roi gwybod i Wasanaethau Rheoliadol a Rennir drwy ffonio 0300 123 6696 neu drwy anfon e-bost atom drwy ein tudalen Cysylltu â Ni

Llun trwy garedigrwydd Christian Hess Araya.