Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dedfryd ohiriedig ar gyfer masnachwr twyllodrus ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae masnachwr twyllodrus a gymerodd £6,000 oddi wrth breswyliwr oedrannus ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gael yn euog yn dilyn ymchwiliad i droseddau stepen drws gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Medi 28ain, 2020

Roof tiles

Clywodd Llys y Goron Caerdydd, ddydd Gwener 18 Medi, sut y galwodd Charles Price o Barc Carafanau Cae Garw, y Pîl, yng nghartref preswyliwr oedrannus. Gwnaeth honni ei fod wedi gweld problem gyda tho'r tŷ tra oedd yn gweithio ar dŷ arall yn y stryd. 

Cytunwyd ar ffi o £550 ar gyfer yr atgyweiriadau, ond ni ddarparwyd unrhyw waith papur felly ni wyddai'r preswyliwr gyda phwy yr oedd yn delio neu beth oedd yr hawliau canslo gofynnol ar gyfer y gwaith. 

Dros y diwrnodau i ddod, honnodd Mr Price fod angen llawer mwy o waith na'r hyn a gytunwyd a darbwyllodd y preswyliwr i roi £6,000 iddo. Pan geisiodd gynyddu hwn i £9,000, cysylltwyd â swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Arweiniodd ymchwiliad at gyflwyno gwarant mynediad yng nghartref Mr Price, a arweiniodd at atafaelu swm o £3,200 o arian parod yn ogystal âthaflenni a deunyddiau eraill a oedd yn gysylltiedig â’i waith toi. 

Gwnaeth syrfëwr siartredig a asesodd y gwaith yng nghartref y preswyliwr oedrannus ganfod na ddylai fod wedi costio'n fwy na £1,700, yn cynnwys unrhyw elw.

Ar ôl pledio'n euog i droseddau o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008, dedfrydodd y llys Charles Price i 16 mis yn y ddalfa wedi'i ohirio am ddwy flynedd, 200 o oriau o wasanaeth cymunedol ac wyth diwrnod o adsefydlu. Hefyd, rhoddodd £3,200 o ddigollediad i'r dioddefwr - yr union swm a gafodd ei atafaelu’n flaenorol o eiddo Mr Price.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ac aelod o Gyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Rwy'n ddiolchgar i'r swyddogion ymroddedig sydd wedi gweithio'n ddiflino er mwyn cefnogi'r preswyliwr oedrannus ac i gosbi Mr Price ar ôl i'w orelwa a’i ddiystyriaeth amlwg adael y preswyliwr ar ei golled yn sylweddol.

"Mae'r achos hwn yn ein hatgoffa bod masnachwyr twyllodrus yn parhau i weithredu er gwaethaf pandemig parhaus y coronafeirws, a bod yn rhaid inni gyd weithio gyda'n gilydd fel cymdogion, ffrindiau a theulu i ofalu am breswylwyr sy'n agored i niwed, a'u hamddiffyn rhag cael eu camddefnyddio."

“Mae gan fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr lawer o fusnesau cyfreithlon ardderchog a fydd yn gwneud gwasanaethau cynhwysfawr i breswylwyr, ac rwy'n annog preswylwyr i beidio ag ymgysylltu â galwyr digroeso sy'n cynnig gwneud gwelliannau yn eu tŷ."

I adrodd masnachwyr twyllodrus at safonau masnachu, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.