Tatŵio a Thyllu
Cyngor iechyd a diogelwch ac arweiniad ar datŵio a thyllu, yn cynnwys cydymffurfiaeth trwyddedu ac is-ddeddfau.
Mae gofyn i chi fod wedi cofrestru os ydych chi’n tatŵio neu’n tyllu. Er mwyn cofrestru (fel unigolyn neu ar safle), mae angen cyflwyno ffurflen gais a’r ffi berthnasol.
Ar dderbyn cais i gymeradwyo safle, bydd archwiliwr yn archwilio’r safle.
Bydd yr archwiliwr yn gwirio cydymffurfiaeth â gofynion yr is-ddeddfau perthnasol yn ogystal â safonau cyffredinol iechyd a diogelwch. Bydd yr archwiliwr yn hapus i gynnig unrhyw gyngor neu gymorth os nad ydych chi’n siŵr sut i gyflenwi’r goblygiadau hyn.
Yn dilyn yr archwiliad, gall tystysgrif gofrestru gael ei rhoi, neu beidio os nad ydy’r safle’n cydymffurfio â’r safonau angenrheidiol. Dim ond pan fydd y safle’n cydymffurfio â’r safonau angenrheidiol y bydd tystysgrif yn cael ei rhoi.
Os bydd tystysgrif yn cael ei rhoi i chi neu i’ch safle, mae’n parhau am gyfnod amhenodol, ac nid oes angen adnewyddu’r dystysgrif ar unrhyw adeg.
Cofrestru Safle
Bydd angen i chi gofrestru safle drwy’ch awdurdod lleol:
Ymgynghoriadau
UK REACH – Cynigion Cyfyngiadau 003 - Sylweddau a grwpiau o sylweddau sy'n peri risg i iechyd pobl os ydynt yn bresennol mewn inciau tatŵ a cholur parhaol (PMU). Gellir dod o hyd i gyflwyniad ar y ffeil cyfyngu inciau tatŵ a cholur parhaol (PMU) ac ymgynghoriad cyhoeddus gan yr Asiantaeth ar gyfer UK REACH ar YouTube:
Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 - Trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru: rheoliadau drafft a chanllawiau statudol
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar reoliadau drafft a chanllawiau statudol i sefydlu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio.
Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun. Y bwriad yw cychwyn Rhan 4 o'r Ddeddf a rhoi'r cynllun trwyddedu cyfan ar waith. Ymgynghorodd LlC yn flaenorol ar egwyddorion y cynllun, ac mae’r ymatebion a gawsom wedi llywio’r rheoliadau drafft. Mae LlC hefyd yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft a gyhoeddwyd o dan adran 66(11) o’r Ddeddf ar y materion y mae awdurdodau lleol i’w hystyried wrth benderfynu a yw addasrwydd ceisydd i roi triniaeth arbennig wedi bod, ac os felly, i ba raddau. cael ei gwestiynu.
Gan mai hwn yw'r ail ymgynghoriad a'r olaf, bydd yn rhedeg am gyfnod ymgynghori byrrach o 8 wythnos. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 8 Ebrill 2024, ac ar ôl hynny bydd y rheoliadau’n cael eu cwblhau a’u gosod gerbron y Senedd. Byddwch yn gallu gweld y ddogfen ymgynghori a’r rheoliadau drafft yma.
Rhan o ofynion y drwydded fydd i ymarferwyr lwyddo mewn Dyfarniad RSPH Lefel Dau mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Triniaethau Arbennig. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs ewch i'n tudalennau hyfforddi.
Arweiniad
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch chi parthed tatŵio neu dyllu, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:
- Cysylltu â Ni
- Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU